
Ni’n gyffrous i groesawu Casgleb DARCH i g39 ar gyfer ei dangosiad cyntaf yng Nghymru o Heaven in the Ground.
More info >>
g39 yn cyflwyno A Shell Stood for Zero, gosodwaith sonig a cherfluniol newydd gan yr artist Kelsey Cruz-Martin. Gan gwmpasu ysgrifennu, printio, cerflunio a sain, mae ei hymarfer yn archwilio gwybodaeth brofiadol, y llais, a’r berthynas rhwng iaith a’r corff.
More info >>
Fel rhan o Heaven in the Ground, bu DARCH yn cydweithio gyda’r cerflunydd o Gymro Brian Denman er mwyn creu cyfres o ‘deils’ mawr wedi eu castio â llaw, yn darlunio elfennau o’u stori am yr isfyd.
More info >>
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i harddwch caligraffi Persiaidd, gan ganolbwyntio ar lawysgrifen gosgeiddig Nastaliq a Shekasteh Nastaliq.
More info >>
Bwriad y digwyddiad hwn yw cefnogi’r broses o rannu a thrafod llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar gelf gyfoes a theori celf, helpu artistiaid, hyfforddwyr, a churaduron i ddatblygu eu hymarfer a’u hymchwil.
More info >>
Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)
Mae Effaith yn arddangosfa sy'n dangos safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes: yr argyfwng hinsawdd.
Mae g39 wedi'i leoli mewn warws mawr, agored. Mae'r holl fannau cyhoeddus ar y lloriau gwaelod ac nid oes unrhyw stepiau o dan do. Nid oes stepiau wrth y brif fynedfa ac mae'r gofod i gyd ar un lefel. Mae un gris isel wrth y drws ochr.
Mae maes parcio o flaen yr adeilad gyda mannau parcio i ymwelwyr. Mae'r oriel, yr ystafell sgrinio a'r stiwdios i gyd yn gwbl hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn. Nid oes dolen sain wedi'i gosod yn g39.
Mae arddangosfeydd g39 yn amrywiol, ac yn aml gall edrych a theimlo'n wahanol i oriel amgueddfa draddodiadol. Gall ffurf y gweithiau celf fod yn amrywiol ac yn anrhagweladwy ac nid yw synau uchel neu ailadroddus a gofodau tywyll yn bethau anghyffredin yma. Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gydag unrhyw arddangosfa neu ddigwyddiad penodol yr ydym yn eu cynnal.
Mae'r stiwdios wedi'u lleoli yng nghefn yr adeilad. Os yw pobl sydd ag anghenion hygyrchedd yn cael eu dewis ar gyfer rhaglen breswyl / cymrodoriaeth neu’n gosod gwaith ar gyfer arddangosfa, gellir addasu gofodau stiwdio a gweithdai i ddiwallu eu hanghenion.Yn y gaeaf, gall gofod yr oriel fod yn oer. Mae croeso i anifeiliaid cymorth yn g39.
Disgrifiad Sain o g39 a'i holl ofodau

Mae'r digwyddiad hwn yn wahanol i agoriad / lansiad. Mae'n ofod cymdeithasol lle gall bobl ddod at ei gilydd a rhannu bwyd, yn hytrach na diodydd. Mae'n ofod lle gallwch gwrdd â ffrindiau a mwynhau celf gyda'ch gilydd.
Ymunwch â ni ar gyfer Neighbourhood Crowd ola’r flwyddyn, i gael paned a byrbryd am ddim, gweld yr arddangosfa, a chael sgwrs. Mae croeso i bawb.
Dyma'r dogfennau rydym yn gweithredu yn ôl. Rydym yn gweithio i gael y fersiynau diweddaraf o'n polisïau allweddol ar-lein yn Saesneg a Chymraeg ac ar gael mewn fformatau eraill.
Ar hyn o bryd, gallwch ddarllen fersiynau PDF o'n:
Cod Gofal & Ymddygiad
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol
Os hoffech gael y dogfennau hyn mewn fformat hygyrch arall, cysylltwch â ni ar info@g39.org

Mae Llyfrgell g39 yn adnodd sy’n agored i bawb. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau artistiaid, cyfeirlyfrau celf, zines a phamffledi yn bennaf. O socio-wleidyddol i’r arbrofol, o ôl-sylliadau avant-garde y 60au i gyhoeddiadau arddangosfeydd cyfoes a phopeth yn y canol, gobeithio. Mae’n gasgliad sy’n datblygu a thyfu; os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer llyfrau hoffwch weld yno, cofiwch anfon e-bost neu sgwrsiwch gyda ni wyneb yn wyneb.
Chwiliwch y casgliad