Haelioni a chydweithrediad yw pennaf nodweddion fy ngwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddefosiwn. Wrth geisio diffinio 'estheteg risomatig', mae fy ngwaith yn ystyried hynodweddau gwaith stiwdio ac yn chwyddo'r ystyr, y broses a'r wleidyddiaeth sy'n gysylltiedig â hynny er mwyn adlewyrchu pathos sy'n cysylltu'n uniongyrchol ag etifeddiaeth defosiwn. Mae hynny'n cynnwys moeseg artistiaid, gweithredoedd, ymyriadau mewn oriel, gwrthrychau, delweddau a thestunau a’r nod yw ysgogi gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r ffydd sydd ar waith mewn sefyllfaoedd o'r fath. O Stiwdio B yn Riverside, Caerdydd, dw i ar hyn o bryd yn gweithio ar brosesau sy'n ymwneud â’r modd y caiff teimladau, strwythurau caneuon pop a sloganau eu rhoi ar waith ym moeseg artistiaid.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: