Mae James Moore
yn baentiwr. Mae ei baentiadau, yn ddoniol, yn eistedd mewn safle lletchwith rhwng ffaith a ffuglen, gan gyfeirio at fydoedd efelychiadol megis gemau cyfrifiadur a dioramâu amgueddfa.
'Mae fy ngwaith wedi esblygu o fath o ddull ffotorealiaeth syml i dechneg paentio sy'n chwarae â dynwarediad. Mae gennyf ddiddordeb mewn tanseilio’r rôl o baentiwr darluniau realistig. Mae'r unig wir yn fy lluniau yn oddrychol - mae'r paentiadau o bynciau sydd fel arfer naill ai'n ffug, ddim yn bodoli, neu'n amhosib eu gweld yn y cnawd, ond sydd â realiti gyfunol ymysg grwpiau o bobl o hyd. Maent yn gweithredu fel arwydd at y gwagle plastig, efelychiadol yr ydym yn trigo fwyfwy ynddo.
Yn 2002, cwblhaodd James MA yng Ngholeg Celf a Dylunio Chelsea. Cafodd sioeau unigol diweddar yn Elysium, Abertawe; Oriel Mwldan, Ceredigion; a llawer o sioeau grŵp, gan gynnwys Oriel Saatchi, Llundain; Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd; ac Oriel PAPER, Manceinion.