Angela Magee
Mae gen i ddiddordeb yn y seice dynol - yn y ffordd y mae atgofion anghofiedig yn treiddio i'n hymwybod. Rwy'n hoffi ail-ddychmygu'r cyfarwydd a chwestiynu cyd-destunau cudd ac arwyddocâd deuoliaethau bywyd. Rwy'n gweithio'n bennaf â chyfryngau ffotograffiaeth, peintio digidol, gosodweithiau a ffilm. Weithiau, dw i am am i fy ngwaith celfyddydol ddifyrru, ar adegau eraill dw i am iddo darfu ond, yn y pen draw, dw i am herio pobl a'u cymell nhw i weld pethau mewn ffordd wahanol.
Dw i'n byw gyda fy nheulu yn y Barri, ym Mro Morgannwg, ac yn mwynhau tynnu lluniau a ffilmio tirweddau ysbrydoledig ar Arfordir Morgannwg ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roeddwn i wastad wedi gobeithio gwneud gradd mewn celfyddyd gain ond nid fel yna y digwyddodd pethau ac, yn lle hynny, dw i wedi mwynhau gyrfa werth chweil ym myd marchnata a chyfathrebu. Dim ond wedi i fy merch ieuengaf ddechrau cwrs gradd mewn darlunio bum mlynedd yn ôl y sylwais bod yr ysfa i greu gennyf o hyd. Felly, yn 49 oed, a chyda chefnogaeth fy nheulu, es amdani - ymddiswyddo a dechrau cwrs Sylfaen celfyddyd gain. Roedd yn benderfyniad radical ond dw i erioed difaru ac erbyn hyn hyn dw i ar ail flwyddyn cwrs gradd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn mwynhau pob eiliad.