Treuliais y ddwy flynedd ddiwethaf yn gweithio fel 'intern' curadurol yn Oriel Mwldan, oriel celfyddyd gyfoes yng Ngorllewin Cymru, lle bues i hefyd yn ymchwilio ac yn rhaglennu arddangosfeydd.
Yn ystod fy nghyfnod yn y Mwldan, cynyddodd fy niddordeb yn y syniad o gyflwyno celfyddyd gyfoes i gynulleidfaoedd nad ydynt fel arfer yn dod ar ei thraws, a'r posibiliadau a gyflwynir drwy osod gweithiau ac arddangosfeydd mewn gwahanol gyd-destunau (y tu allan i'r oriel). Arweiniodd hynny yn naturiol at diddordeb yn y Biennale fel fformat, fel cyfle ac fel syniad, ac hefyd at ofyn cwestiynau am ei bwrpas a'i wendidau. O ganlyniad, dw i eisiau archwilio Biennales mewn gwahanol gyd-destunau.
Yn gynharach eleni, būm yn gweithio yn Sri Lanka gyda Alnoor Mitha, curadur Biennale Celfyddyd Colombo (CAB 2016). Roedd gweld y gwaith a chanlyniadau'r digwyddiad hwnnw yn brofiad gwerthfawr, felly hefyd y cyfle i weithio gyda nifer o artistiaid lleol a rhyngwladol.