Jonathan Prior

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar astudio'r berthynas rhwng gwerthoedd amgylcheddol a llunio polisďau amgylcheddol, fel ffordd o ddeall beth sy'n cymell ac yn sail i ffyrdd gwahanol o gysyniadu'r byd sy'n fwy na'r byd dynol (anifeiliaid, planhigion, prosesau ecolegol) pan fo bodau dynol yn ceisio gweithredu strategaethau cadwraeth, adfer ecolegol neu reoli amgylcheddol. Y croestoriadau rhwng sain a daearyddiaeth yw canolbwynt fy ail faes ymchwil. Yma, rwyf yn gweithio ar ffyrdd y gall daearyddwyr roi mwy o sylw i elfennau sonig amgylcheddau. Fel rhan o’r gwaith hwn, rwy’n datblygu dulliau ffonograffig (gwrando, cerdded gan ganolbwyntio ar sain, cofnodi clywedol) at ddibenion ymchwil daearyddol a gwyddorau cymdeithasol a chelfyddydau ehangach.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
The Rejoinders