Kit Poulson o'r dwyrain, sy'n perfformio ac yn ysgrifennu am hanes, cerddoriaeth, mytholeg a Thedi Bois.Mae Amy Grace yn dod o'r gorllewin. Mae ei gwaith yn cynnig sylwadau ar ddiwylliant cyfoes a chyfathrebu - beth yn union yw'r Gymraeg am Jamiroquai? Heno, bydd hi'n gweithio ochr yn ochr â Kit.
Trwy ddefnyddio'r llais, dolenni sain ac ieithoedd gwahanol byddant yn ymdrechu i greu sgwrs fylchog sy'n cwmpasu Ynysoedd Prydain.