
Will Roberts, If I had a Hi Fi, 2012-18
Peintiwr yw Will Roberts. Yn aml, mae ei waith yn naratif sy'n mynegi straeon a sefyllfaoedd y mae'n dymuno sôn amdanynt. Yn y lluniau mae'n eu peintio, mae'n darlunio ei hun fel yr holl brif gymeriadau – weithiau mae'n teimlo ei fod yn edrych ar ei hun yn y trydydd person a bod y paentiad yn fotwm seibiant i olygfa neu naratif.
'Rwyf wedi gweithio fel technegydd oriel a theatr dros y chwe blynedd diwethaf a dwi wedi gweld llawer o straeon yn cael eu perfformio ar y llwyfan. Rwy'n hoff o ddweud straeon hefyd. Yn y bôn, mae'r peintiadau hyn yn setiau wedi'u haddasu ar gyfer casgliad o straeon dychmygol sydd â nifer o haenau. Dwi'n defnyddio llawer o ddelweddau o ddrychau, adlewyrchiadau, paentiadau o baentiadau eraill yr wyf wedi'u gwneud.
“Ar ddyfais symudol, rwy'n cynhyrchu'r rhagflaenydd digidol i'r paentiad, sydd wedi cael ei droi'n llorweddol. Mae'r hyn a welwn yn y paentiad yn adlewyrchiad o'r sgrin. Mae teitlau'r paentiadau yn balindromau. Rwyf am i'r paentiad wneud yr un peth, 'darllen' yn ôl yn ogystal ag ymlaen – wrth i'r gwyliwr geisio dehongli nodweddion a delweddau’r paentiad, yn ei dro mae’n dod yn rhan o'r broses o greu'r gwaith. Yn y theatr, mae'r bedwaredd wal yn ddychmygol, lle mae'r gynulleidfa’n eistedd. Dywedir eich bod yn torri'r bedwaredd wal os ydych yn rhoi'r gorau i esgus ei bod yno. Rwy'n ceisio gwneud hyn gyda fy mheintiadau.'
Astudiodd William Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Celf Manceinion (BA, 1999) ac yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (MA, 2005). Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys: The Process of Memory (Oriel Davies, y Drenewydd) a There you Aren’t (Oriel Magpie, Caerdydd) yn 2009, yn ogystal â sioeau grŵp yn BayArt, Caerdydd, ac yn Paintworks, Bryste. Roedd William yn artist preswyl ac roedd ganddo sioe unigol yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd, yn 2005, lle mae'n gweithio ar hyn o bryd.
www.instagram.com/william_j_roberts/
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Everything.
All At Once.
At The Same Time. g39 Fellowship TWO No
Time
To Plan
an Ending Dolenni :www.williamjroberts.com