Frank Wasser

b. 1988, Dublin, Ireland
Byw a gweithio London

Mae gwaith Frank Wasser yn cyfuno perfformiad, ysgrifennu (theori a ffuglen) a gwneud gwrthrychau i archwilio diwylliant gweledol, adrodd straeon cyfoes, a goblygiadau cymdeithasegol technolegau realiti estynedig a rhith-wirionedd.



Mae ef yn artist ac yn awdur y mae ei waith stiwdio wedi dilyn sawl llwybr gwahanol. Esboniodd fod darnau o'i waith ysgrifennu yn tynnu sylw at rai ffyrdd o feddwl wrth greu gwaith celf. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn golygfeydd a herio syniadau ac awdurdodau megis sefydliadau celf ac addysg. Mae darnau testun Wasser yn dwyn rhagor o ffrwyth pan mae'n gweithio o fewn sefydliadau a grwpiau celf cymunedol. Fodd bynnag, tra bo artistiaid efallai'n cofnodi ac yn archifo eu gwaith, nid yw Wasser yn gwneud hynny – yr unig gofnod o'i waith yw'r hyn a geir gan bobl sydd wedi'i brofi'n bersonol ac wedi’i gofnodi ar eu liwt eu hunain. Yn y ffordd hon, mae gan Wasser ddiddordeb yn y ffordd mae ei waith yn rhyngweithio â diwylliant.

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: The Slow cancellation of the present (performance), AM Gallery, Llundain (2018); Sad Mirror, Llundain (2018); Letters of last Resort, Brussels, Belgium (2018); Hmm 11, Llundain (2017); Scene 93 Omitted, Llundain, (2014); Dear Diogenes, this is something else (performance), Villa Empain, Brussels, Belgium (2017). Mae llyfr Wasser newydd Zero Hour Fragments dod yn fuan gyda MA Bibliothèque.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
https://www.frankwasser.info/