
Paula Morison, Wildfire (01.05.14 - 20.03.18), 2018
Mae gwaith Paula Morison yn defnyddio archifau, data a chofnodion fel man cychwyn ar gyfer gwaith cysyniadol. Mae Paula yn ail-roi gwybodaeth mewn cyd-destun, ac yn defnyddio iaith systemau i ddarganfod hiwmor, hurtrwydd a barddoniaeth mewn data ac ein hymdrechion i ganfod trefn.
‘Mae mesur, cofnodi, enwi a chategoreiddio i gyd yn ffyrdd yr ydym yn eu defnyddio i geisio creu'r trefn hwn. Rydym yn arbed pethau a'u cadw ar gyfer y dyfodol. Rydym yn archifo pethau ar gyfer y dyfodol. Credwn mewn crefyddau sy'n addo bywyd tragwyddol neu ailymgnawdoliad i ni. Chwiliwn am atebion drwy straeon a thrwy wyddoniaeth. Yn fy ymchwil, cychwynnaf yn aml gyda'r personol. Archwiliaf sut yr ydw i'n rhyngweithio gyda'r systemau o'm hamgylch a gwneud y profiad personol hwn yn ddeialog gyda sgyrsiau ehangach ynglŷn â'r byd sydd wedi'i gyfryngu'n ddynol.'
Astudiodd Paula yng Nghaerdydd o 2005 hyd at 2008 a bydd yn graddio o'r MFA yn Slade yn 2019. Yn 2018, cafodd Morison ei dewis ar gyfer
Bloomberg New Contemporaries. Yr un flwyddyn, roedd yn dderbynnydd y
Red Mansion Art Prize, a alluogodd hi i ddatblygu gwaith newydd o amgylch iaith ar gyfer ei harddangosfa yn yr Academi Frenhinol ym mis Mai 2019.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Rumblestrip Dolenni :http://www.paulamorison.com/