
Tim Bromage, Photo Greg Goodale
Mae Tim Bromage yn gweithio ym maes perfformio yn bennaf. Mae ei waith yn defnyddio ysgrifennu, adrodd stori a hud fel ffyrdd o siarad am hanes gwerin a mytholeg gyfoes.
Mae Tim yn defnyddio hud, gwisgoedd, testun a phropiau llwyfan i greu defodau rhyfedd. Wedi'i gosod o fewn y cyd-destun hwn, mae'r effaith hudol yn dod yn ffordd o arddangos yn symbolaidd, gan greu naratifau toredig sy'n cyfeirio at chwedlau a hanes. Mae ei waith diweddar wedi'i lywio gan ymchwil barhaus i rôl ffigwr y twyllwr fel chwedleuwr yn ogystal â hanesydd llafar.
Gwnaeth Tim Bromage astudio perfformio ar gwrs ymarfer yn seiliedig ar amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ers graddio yn 2004, mae wedi perfformio ledled Prydain a thramor, gan weithio gyda sefydliadau niferus, gan gynnwys gŵyl
Spill, LADA, Canolfan Gelfyddydau Chapter, tactileBOSCH, Wellcome Collection, Canolfan Gelfyddydau Colchester, Stiwdio’r Theatr Genedlaethol, Made in Roath a
Performance Space.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Sprung Spring Dolenni :https://mungosbeanfarm.wixsite.com/bromageart