Nightshift International

b. Manchester
Byw a gweithio Manchester

Nightshift International, <i>Green Hills</i>, 2018
Nightshift International, Green Hills, 2018

Mae Nightshift International yn fenter gydweithredol gyfoes a sefydlwyd gan Elliott Flanagan a Sarah Boulter. Gan weithio gyda pherfformiad a gosodiad fideo, mae'r ddau yn archwilio cyfathrebu drylliog, dirywiaeth cyllideb a ffordd o fyw fodern drwy iconograffiaeth diwedd yr ugeinfed ganrif, gan greu'r arwyneb caboledig ac ingol gyfarwydd sy’n nodweddu byd a wnaed ar gyfer y teledu.

Mae Flanagan yn chwilio am gipolwg o onestrwydd ynghanol anrhefn gwrywdod drylliedig ac mae'n nodi gwerth cyfeillgarwch a'r profiad cymunedol. Mae'n archwilio'r tensiwn mewn hunanfynegiant gwrywaidd rhwng eich ymwybyddiaeth eich hun a disgwyliad cymdeithasol. Mae ei waith yn ategu’n dwt gyfaredd Boulter ag arfer, ailadrodd a threfn, perfformiad preifat a chyhoeddus, ac apêl dyhead y gor-fenywaidd. Mae Nightshift International yn dilyn yr hyn sy'n fydol galonogol ac yn ail-greu rhyngweithiadau ymddangosiadol gyffredin drwy berthnasau anghonfensiynol na ellir eu hadfer ar y sgrin. Maen nhw'n astudio gofod cyhoeddus, agosatrwydd, disgwylgarwch, siom a cholled mewn ffordd sydd wedi'i gloywi gan wawr adloniant ysgafn.

Mae sioeau diweddar yn cynnwys Preswyliad Galerie Hinten Chemnitz yn yr Almaen (Hydref 2019), Preswyliad Pas-E Pafiliwn PROFORMA Fenis (Mai–Mehefin 2019), Ffair Gelf Gyfoes Manceinion (Hydref 2018), sef sioe unigol Nightshift International ar gyfer PROFORMA, Dancehouse Manceinion ar gyfer Gŵyl Gelf PROFORMA (Gorffennaf 2018), Sounds from the Other City, a New Art Spaces Oriel Castlefield.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Sprung Spring

Dolenni :
https://www.elliottflanaganstudio.com/nightshiftinternational
  • Nightshift International, <i>Green Hills</i>, 2018