Mae Sarah Jenkins yn artist o Gymru (wedi'i geni yng Nghaerdydd, 1993) sydd yn gweithio trwy gyfrwng cerfluniaeth, ysgrifennu a ffilm. Math o ddweud stori yw ei gwaith, sydd wedi'i greu o fydoedd a dyfodol dychmygol sy'n ystumio gwrthrychau a thechnolegau ymarferol er mwyn creu ffugiannau absẃrd sydd â naratifau disynnwyr. Mae ei hagwedd tuag at ddeunydd a phroses yn chwareus ac yn cael ei arwain gan waith arbrofi. Mae ei gwaith ymchwil yn defnyddio hanesion gwrthrychau a lleoedd, y diwylliant pop a ffuglen synfyfyriol.
Mae ei gwaith diweddaraf yn archwilio mythos Cymraeg a diwylliant Celtaidd, yn canolbwyntio ar ledaenu gwybodaeth drwy’r traddodiadau llafar, ac yn ystyried sut y gellir defnyddio'r ffyrdd hyn o adrodd stori a chreu chwedl i ddadansoddi'r adroddiadau hierarchaidd o hanes a diwylliant cyfoes.
Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys Exhibition 1, Open White Gallery ym Merlin, Creekside Open, APT Gallery yn Llundain, techno-utopia, Sluice, Llundain a MESH, Limbo yn Llundain. Yn ddiweddar, bu'n rheolwr ar gyfer y stiwdio ac arddangosfeydd yn Goldsmiths yn Llundain.