Zillah Bowes

Byw a gweithio Cardiff

Zillah Bowes, Still from Allowed (2021). Photographic series and single channel moving image, 35mm. 3 min, 24 sec.
Zillah Bowes, Still from Allowed (2021). Photographic series and single channel moving image, 35mm. 3 min, 24 sec.

Gwneuthydd ffilm, ffotograffydd a bardd yw Zillah . Mae ei hymarferiad creadigol yn aml yn archwilio'r berthynas rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol. Mae ei chysylltiad cyfredol i natur yn llywio ei hymarferiad ar draws pob cyfrwng.



Gydag ymholiad ysbrydol ogylch newid hinsawdd a bioamrywiaeth, mae gwaith Zillah yn symud tuag at ymarferiad rhyngddisgyblaethol gan ddefnyddio gosodwaith a sain, ymysg eraill, yn ogystal â chyfrwng lens a barddoniaeth. Mae ei gwaith diweddar yn defnyddio golau lleuad – nid tywyllwch na golau – i archwilio bywyd dynol a phlanhigion a’r trosglwyddiad rhyngddynt, gan hefyd archwilio’r cysylltiad rhwng planhigion a’r bod dynol.

Cafodd Zillah ei hyfforddi yn y ‘National Film and Television School’ ble derbyniodd ysgoloriaeth Kodak Scholarship. Enillodd ei chyfres ffotograffig Allowed yn y British Journal of Photography Edition 365 a’r International Photography Awards. Enillodd ei ffilm Allowed, oedd yn defnyddio animeiddiadau o’i ffotograffau, gwobr Jury’s Stellar Award yng ngŵyl ffilm Thomas Edison a chafodd ei dethol ar gyfer gwobr Aesthetica Art Prize 2020. Cafodd ei chyfres ffotograffeg Green Dark, sy’n cynnwys barddoniaeth, ei ddangos mewn arddangosfa unigol yn Ffotogallery yn 2021 a bu rhagolwg yn yr arddangosfa ‘Royal Academy of Arts Summer Exhibition’. Enillodd ffilm Zillah Staying/Aros Mae gwobr Grand Jury Prize yn Premiers Plans Angers a chafodd ‘Special Mention’ yng ngwyliau ffilm Encounters, cafodd ei ddangos yn rhyngwladol a bydd yn cael ei darlledu ar y BBC yn 2022. Comisiynwyd yn 2021 i wneud Gwawr/Dawn i nodi agoriad Senedd Cymru. Am ei barddoniaeth, enillodd Zillah gwobr Wordsworth Trust Prize, cystadleuaeth Poems on the Buses a gwobr Literature Matters Award gan y Royal Society of Literature.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNITe22

Dolenni :
www.linktr.ee/zillahbowes
  • Zillah Bowes, Still from Allowed (2021). Photographic series and single channel moving image, 35mm. 3 min, 24 sec.
  • Zillah Bowes, Still from Allowed (2021). Photographic series and single channel moving image, 35mm. 3 min, 24 sec.
  • Zillah Bowes MELD (series) (2022). C-type print, 63 x 87 x 4 cm.
  • Zillah Bowes, Cwm yr Esgob (landscape in moonlight) from the series Green Dark (2021) C- type print, 62 x 87 x 4 cm.