Rosamaria Kostic Cisneros

LifeStrings (still image), Rosamaria Kostic Cisneros 2022
LifeStrings (still image), Rosamaria Kostic Cisneros 2022

Mae Rosamaria Kostic Cisneros yn ddawnswraig a choreograffydd broffesiynol, yn guradur ac yn athro cymwysedig, sydd wedi byw a dawnsio mewn gwahanol rannau o'r byd, gan gydweithio â llawer o fawrion Fflamenco a ffigurau blaenllaw eraill o’r byd Dawns. Mae hi hefyd yn Hanesydd a Beirniad Dawns, Ysgolhaig Roma, Hanesydd Fflamenco ac Actifydd dros Heddwch. Mae Cisneros wedi dysgu ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau, ac yn yr Almaen, Sbaen a Thwrci.

Esgorwyd ar y Fflamenco gan gymuned Roma Sbaen ac mae gwaith traddodiadol yn aml yn cynnwys cantorion, chwaraewr gitâr a dawnsiwr. Ffilm ddawns-sgrin yw LifeStrings sy'n ymchwilio i gyfiawnder hinsawdd, feiolinau a bod yn fam gan ddefnyddio geirfa’r ddawns fflamenco gyfoes. Gan fyfyrio ar rhythmau dawns, technegau, ystumiau a dulliau trosglwyddo’r Fflamenco traddodiadol, mae'r gwaith yn gofyn cwestiynau am yr hyn rydym yn ei gopďo a'i ddynwared a'r hyn rydym yn tarfu arno ac yn gadael iddo fynd o ran traddodiadau. Mae'r ffilm yn defnyddio lens goreograffaidd i lywio trwy drawma diwylliannol a thrwy’r cenedlaethau tra hefyd yn dibynnu ar y corff dawnsio i ddatgelu hanesion ac arferion a ymgorfforir. Mae gan gerddorion Romani Lautari draddodiad gwych o chwarae ffidl, gyda chwaraewyr penigamp yn aml yn brodio eu cerddoriaeth ag addurn cerddorol eithafol. O fewn y Fflamenco, bydd y ffidil yn aml yn disodli’r canwr sef y llais o fewn cyfeiliant. Mae LifeStrings yn archwilio'r syniad hwn o lais a tharfu ar draddodiadau wrth dynnu ar syniadau Roman Krznaric am yr 'hynafiad da'. Gan fyfyrio ar Y Vaia, storm dreisgar a rwygodd drwy goedwig hanesyddol Val di Fiemme (yr Eidal) ddiwedd 2018 ac a adawodd ddinistr yn ei sgil, mae LifeStrings wedi'i gysegru i gyfiawnder rhwng y cenedlaethau ac i feddwl dros y tymor hir. Trodd storm y Vaia yn 2018, sef pwysedd isel atmosfferig mawr gyda gwyntoedd cryfion, dirwedd coedwig Stradivari yn llanast llwyr. Cafodd Vaia effaith ddramatig dros ardal gyfan y Dolomitau, sy’n safle Treftadaeth Byd UNESCO. Achosodd werth bron i $3.5 biliwn o ddifrod gan ddymchwel coedwigoedd cyfan, a dinistrio 8.5 miliwn metr ciwbig o goed. Mae LifeStrings yn gofyn... Pa fath o hynafiad ydych chi am fod?

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Talk // Sgwrs - Gypsy Maker 5
Gypsy Makers

Dolenni :
www.rosasencis.org
  • LifeStrings (still image), Rosamaria Kostic Cisneros 2022
  • LifeStrings (still image), Rosamaria Kostic Cisneros 2022