Ymunwch â ni ar gyfer Neighbourhood Crowd, i gael paned a byrbryd am ddim, gweld yr arddangosfa, a chael sgwrs. Mae croeso i bawb.
Mae Neighbourhood Crowd yn ddigwyddiad cymdeithasol yng nghegin g39. Mae’n gyfle i dreulio peth amser yma gyda ni i weld yr arddangosfa, neu i ymweld â’r llyfrgell – ond gyda byrbryd neu baned.
Mae'r logos yn cael eu dylunio gan bobl greadigol leol yn y Rhath ac rydym yn gwahodd cwmnïau arlwyo ac artistiaid sy’n gweithio’n uniongyrchol i wasanaethu’r gymuned i ddarparu prydau a chroesawu'r dorf. Dyluniwyd y logo hwn gan yr artist lleol Milo Elliot a fu'n rhan o UNITe 2019 yn g39.
Galwch draw ar unrhyw adeg rhwng 11am a 1pm, mae'n rhad ac am ddim i ymweld.
Mae'r digwyddiad hwn yn wahanol i agoriad / lansiad. Mae'n ofod cymdeithasol lle gall bobl ddod at ei gilydd a rhannu bwyd, yn hytrach na diodydd. Mae'n ofod lle gallwch gwrdd â ffrindiau a mwynhau celf gyda'ch gilydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad a phryd am ddim.
Bydd y bwyd a weinir naill ai'n fegan neu bydd amrywiadau o'r pryd yn fegan.
Dyddiadau i ddod: 25/10/25, 29/11/25
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants