Mae gwaith Alliyah Enyo, yr artist o Glasgow, yn pontio disgyblaethau ac yn ymwneud yn bennaf â phrosesau yn y corff a phrosesau myfyrio. Mae hi’n defnyddio caneuon, somateg a cherflunwaith i greu gosodiadau a pherfformiadau sy’n llawn ‘myth soniarus’. Bydd seiniau wedi’u plethu yn cael eu creu ar ffurf lwpiau amlhaenog ar dâp, darnau o’i llais, recordiadau wedi’u codi o’r maes, ac atgofion.
Mae’r gwaith yn creu llen ddirgel sy’n gorchuddio’r gynulleidfa ag ymdeimlad o arafwch a swrealaeth, gan ddatgelu sylfeini ei gwaith ymchwil sy’n edrych ar fythau, chwedlau gwerin neu straeon gwyddonias ynghylch safbwyntiau a hanesion ecolegol cwiar.
Mae Alliyah wedi arddangos ynHybrid Festival (yr Iseldiroedd, 2024) Embassy Gallery (Caeredin, 2023), Norberg festival (Sweden, 2023), FIBER Festival (yr Iseldiroedd, 2023) and Fruitmarket Gallery (Caeredin, 2022)