
Artist sain, ymchwilydd ac addysgwr yw Paul Nataraj ac mae’n dod o Blackburn, Sir Gaerhirfryn.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Ymchwilydd Cysylltiol ar brosiect sy’n edrych ar gof mudol a’r dychymyg ôl-drefedigaethol ym Mhrifysgol Loughborough. Mae ei waith ymchwil a’i waith ym maes celfyddyd sain yn trin a thrafod pobl alltud o Dde Asia, sain, y cof a materoldeb sonig.
Mae ei waith wedi’i arddangos a’i chwarae yn rhyngwladol gan gynnwys yn y British Textile Biennale 2021 a’r Kochi Biennale 2022. Hefyd, mae Paul wedi arddangos yn Nottingham Contemporary (2022), Leeds City of Culture (2023), British Textile Biennial (Blackburn, 2021), ac yn yr Kochi Biennale, (India, 2022)