Mae Maeve Brennan yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau sydd wedi'i lleoli yn Llundain. Mae ei hymarfer yn archwilio cyseiniant hanesyddol a gwleidyddol deunydd a lle. Gan weithio ar draws delweddau symudol, gosodiadau, cerflunwaith a deunydd printiedig, mae ei gweithiau’n cloddio hanes haenog, gan ddatgelu’r strwythurau anweledig sy’n pennu ein hamgylchedd byw.
Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Oriel Stanley Picker, Llundain; Oriel Chisenhale, Llundain; Spike Island, Bryste; The Whitworth, Manceinion. Cafodd gwaith Brennan sylw yn British Art Show 9 (2021-22). Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Sainsbury iddi yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain (2023) ac mae’n preswylio ar hyn o bryd yn Somerset House Studios, Llundain.