Yn gweithio ar y groesffordd rhwng sinema a pherfformiad byw, mae Maryam Tafakory (g. Shiraz, Iran) yn gwneud collages testunol a ffilmig sy'n ceisio dadelfennu gweithredoedd cudd o ddileu – cyrff, agosatrwydd a hanesion.
Mae dangosiadau unigol ac arddangosfeydd o’i gwaith yn cynnwys: MoMA, Efrog Newydd; Oriel Gelf Genedlaethol, Washington DC; Amgueddfa'r Academi, Los Angeles; Amgueddfa'r Ddelwedd Symudol, Efrog Newydd; Filmoteca de Catalunya, Barcelona; a LUX Llundain. Mae digwyddiadau grŵp dethol yn cynnwys: Tate Modern, Llundain; Pythefnos Cyfarwyddwyr Cannes, Cannes; Gŵyl Ffilm Efrog Newydd; Gŵyl Ffilm Locarno; Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto; a Villa Medici, Rhufain.
Dyfarnwyd yr Hugo Aur iddi yn 58fed Gŵyl Ffilm Ryngwladol Chicago; Gwobr Tiger Short yn 51ain Rotterdam IFF; Gwobr Ffilm Ffeministaidd Barbara Hammer yn 60ain Gŵyl Ffilm Ann Arbor; a Gwobr y Ffilm Arbrofol Orau yn 70ain a 71ain Gŵyl Ffilm Ryngwladol Melbourne.