Mae Stephen yn creu collages ffilm o archif helaeth o deledu Prydeinig, sain ffilm, delweddau a ddarlledwyd a recordiadau gair llafar y mae wedi bod yn eu casglu ers plentyndod. Gan fyfyrio’n aml ar agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth Brydeinig, mae’r canlyniadau’n gyfuniadau melancolaidd, barddonol a dychanol sy’n tynnu sylw’n gynnil at syniadau am ymwybyddiaeth dosbarth ac awdurdod diwylliannol ac yn eu beirniadu.
Trwy broses olygu helaeth, mae gweithiau Sutcliffe yn gosod sain yn erbyn delwedd i wyrdroi prif naratifau, gan gynhyrchu darlleniadau amgen trwy gyfosod a chydamseru deunydd gweledol a chlywedol.