Mae ymarfer celfyddydau gweledol Esyllt wedi’i seilio ar yr angen i ystyried iaith dan densiwn. Gan weithio ar draws gwahanol ddeunyddiau a disgyblaethau, mae'n chwarae gyda ffiniau cyfieithu rhwng iaith siarad ac iaith y corff.
Mae fy ymarfer gweledol a fy agwedd at greu yn cael eu tanio wrth i mi ystyried iaith dan densiwn. Gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau a ffurfiau megis gwaith argraffu, sain, perfformio, ysgrifennu, ffilm, a sgyrsiau a gwrthrychau parod, rwy’n chwarae gyda chyfieithu rhwng iaith siarad ac iaith y corff i aildrefnu ystyr a herio arferion cyfathrebu, yn benodol dwyieithrwydd yng Nghymru. Rwy’n anelu at dynnu sylw at syniadau pwysfawr am ddirywiad iaith a diffyg trafodaeth ddeallusol sy’n digwydd yn y Gymraeg ac o amgylch y Gymraeg, drwy dynnu sylw at botensial camgyfieithu a chreu gofod ar gyfer llithriadau a thensiynau. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn datblygu ysgrifennu ar gyfer perfformiadau, ffilm a radio i archwilio’r bylchau hyn lle gellir gwneud ystyron, synau a delweddau newydd. Mae hyn wedi arwain at drosi gwaith ysgrifenedig yn dirweddau gweledol swrrealaidd trwy brint, yn ogystal â thrawsnewid gwaith gweledol i ysgrifen ar gyfer sain.
Astudiodd Esyllt y Gymraeg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac MLitt mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Glasgow. Mae ei harddangosfeydd yn cynnwys Pink Moon, The Revelator, Glasgow, ac y sws mewn pinc, Arcade/Campfa, Caerdydd, 2023. Enillodd ei pherfformiad ‘Blobus a Phryderon Eraill’ Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd. Hi oedd cynrychiolydd Cymru yng Ngŵyl Farddoniaeth Transpoesie, Brwsel, eleni.