
Paentiwr sy’n gweithio gyda gwead cynfas yw Abi Birkinshaw, ac mae hefyd yn creu darnau testun byr a ffigurau a ffurfiau wedi eu symleiddio mewn trefniannau diddorol.
“Fi’n creu paentiadau sy’n adrodd fy mhrofiadau bywyd fy hun; maen nhw’n cyfuno
elfennau o fy mywyd bob dydd. Y gofod rhyfedd hwnnw rhwng y go iawn a’r
dychmygol a’r gorffennol a’r presennol – dyna lle mae fy ngwaith yn byw – yn y
rhyngdod.
Yn Nghaerdydd y bu Abi’n astudio, ac mae wedi arddangos ei gwaith yn rheolaidd.
Dangoswyd ei gwaith yn arddangosfa paentio dwyflynyddol BEEP yn 2022, sioe
unigol yn Oriel Elysium yn 2022, concrete lines, baby., yn SHIFT Caerdydd, 2023 a
Ffair Gelf Llundain gyda Oriel Columbia Road, Llundain 2025.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Fanatic Dolenni :https://
www.abibirkinshaw.com/