Rhea Storr

A Protest, A Fear, A Mixed Message,Super 16mm converted to digital with sound, film still,  2018
A Protest, A Fear, A Mixed Message,Super 16mm converted to digital with sound, film still, 2018

Mae Rhea Storr yn creu ffilmiau sy`n ystyried diwylliannau Du, hil gymysg a chymunedau diaspora, gan gynnwys ei hethnigrwydd Bahamaidd–Prydeinig ei hun. Mae hi`n archwilio’r mannau rhwng pethau, cyfieithu, fformat ac estheteg, sy`n darlunio themâu megis ffugio, perfformiadau menywod Du, gofod cymunedol, a phynciau wedi’u hiliaethu mewn tirweddau gwledig neu gyhoeddus.



Mae hi wedi ymddiddori ers llawer dydd yn y defnydd gwrth-ddiwylliannol o ffilm analog, gan gofleidio arferion creu eich hun a mannau amgen er mwyn darlunio pynciau Caribďaidd sydd hefyd wedi`u hymylu. Addysgwyd Storr ym Mhrifysgol Rhydychen, Coleg Brenhinol y Celfyddydau, a Goldsmiths, Prifysgol Llundain, lle cwblhaodd ei doethuriaeth. Mae ei hymchwil yn archwilio croestoriad hunaniaethau Du ac arferion creu ffilmiau arbrofol.

Mae dangosiadau ac arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: MoMA Doc Fortnight; Gŵyl Ffilm Efrog Newydd; Gŵyl Ffilm Llundain Sefydliad Ffilm Prydain; Gŵyl Artistiaid Ffilm a Chyfryngau Berwick; Gŵyl Gelf Cyfryngau Ewrop; Gŵyl Doc Kassel; a Videonale, Kunstmuseum Bonn. Mae`r arddangosfeydd yn cynnwys: Artist Film International, Oriel Whitechapel; Bangkok Kunsthalle; Tate Lates; Somerset House; Oriel Lisson; Amgueddfa Genedlaethol Hanes a Diwylliant Affricanaidd-Americanaidd, Washington D.C. Mae New Territories (spectacle is king) gan Rhea Storr yn cael ei ddangos yn y Barbican ar 16 Awst, fel rhan o`r arddangosfa a`r tymor ffilmiau Project A Black Planet.

The artist was in the following exhibition:
Jarman Awards 2026
  • A Protest, A Fear, A Mixed Message,Super 16mm converted to digital with sound, film still,  2018