Cybi Williams

Gwn
Gwn

Yn y coleg, o’n i’n defnyddio deunyddiau gwahanol i`r arfer i luniadu a pheintio. Bellach mae hynny, ymysg phethau eraill, wedi troi at ganolbwyntio ar sut y mae hynny`n gweithio o dan wrth greu gwaith digidol. Dwi`n darganfod yn araf fod hynny’n gweddu’n dda i greu gwaith sy chydig yn llai abstract yn ei syniadaeth yn ogystal a`i ffurf.
Mae systemau`r cyfrifiadur ei hun wedyn yn troi’n elfen bwysig o’r gwaith yn aml iawn. O wybod fod pob manylun digidol a`r tueddiadau arlein sydd gen i yn bwyntiau data masnachol mae rhywun yn rywle (hyd y gwn i) yn ceisio manteisio anro fo, tybiwn i fod fy nghyfrifiadur yn fy nabod yn well na fi fy hun. Felly be yn union ydw i fod i neud pan mai erthyglau mwya stupid a chynnwys di-ddim sy’n cael ei awgrymmu yn ol atai? A wedyn be ma hynny yn deud am y gwahaniaeth massive rhwng cyfeiriad a thôn dwi’n trio dangos amdana i’n hyn IRL.
Wel, ma’r self reflection wedi neud i fi gan gyfrifiadur i ddechra hefo hi - felly bysai’n syniad gneud gwaith ar be dwi’n ei weld fan hyn. Handy awn fod gan y systemau yma ddim ots am hunanbwysigrwydd.
Pam fod `top 5 reasons to love milk and why vegans are wrong!` yn neud i mi deimlo`n anesmwyth er fy mod i, yn wir, yn lyfio milk? Sut mae `Meanwhile in Russia, 35 Crazy Profile Pictures From Social Media Networks?` am effeithio fy ngwleidyddiaeth? Sgwn i be brynna i ar ol gwylio `craziest street fights compilation (may 2018)`?
yikes! lol

The artist was in the following exhibition:
RAT TRAP x g39
  • Ci
  • Expector
  • Gwn