Shaun James

b. 1988, Wales
Byw a gweithio Cardiff

Mae gwreiddiau ymarfer Shaun James mewn gwneud printiau (argraffu â sgrin yn benodol), ond wrth i'w waith ddatblygu dros amser mae wedi ymgorffori creu fideo, cerflunwaith, perfformio, a dulliau cydweithredol. Un o’r elfennau allweddol yw ei berthynas â’r stiwdio a’r gwrthrychau sydd ynddi. I Shaun, mae'r stiwdio yn gweithredu fel rhidyll sy'n hidlo'r byd ehangach. Oddi mewn iddi gall ymgysylltu â'r deunyddiau y mae wedi'u casglu i ddatgelu eu potensial sydd heb ei gyffwrdd.


Mae gennyf ddiddordeb yn y syniad o gael fy arwain yn fy ngwaith gan y deunydd wrth law a chan amgylchiadau ar hap sy'n codi yn y broses o greu. Mae archwilio egni posib, fel y tensiwn mewn band rwber neu’r modd y mae braich yn disgyn yn anochel o dan bwysau, yn rhoi man cychwyn i'm ngwaith. Rwy'n chwarae gyda phrosesau newydd fel modd i'w deall a'u hehangu, sy'n fy ngyrru ymlaen, gan greu tangiadau sy’n esblygu y tu hwnt i’w cymhelliad gwreiddiol - yn gwaredu ac yn ychwanegu deunydd wrth i’r broses fynd rhagddi.

Yn 2018 bu’n gweithio gyda grŵp o artistiaid ar brosiect a oedd yn edrych ar y broses o gydweithio rhwng yr ‘Artist’ a’r ‘Technegydd’. Yn ôl yn 2013, dechreuodd ar gyfres o weithiau y galwodd yn Apparatus sy'n parhau i ddylanwadu ar ei ymarfer. Astudiodd BA ac MA ym Met Caerdydd rhwng 2007 a 2012 ac mae hefyd yn rhedeg practis argraffu ar gyfer artistiaid o dan yr enw Things In The Studio.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
UNIT(e) 2014
tibrO yalP

Dolenni :
www.shaunjames.co.uk