Thomas Williams

b. 1960, Jos, Nigeria
Byw a gweithio Cardiff

Thomas Williams, <i>Rialto Postcards</i>
Thomas Williams, Rialto Postcards

Mae gen i gefndir mewn printiau cerfwedd traddodiadol ac, ers symud i Gaerdydd yn 2013, dw i wedi ceisio ehangu'r ystod o offer sydd ar gael i mi.

Wrth gydweithio gyda phreswyliad Cyngor Celfyddydau Cymru / Dŵr Cymru yn Nyffryn Elan, ac yn rhan o Raglen Invigilator Plus Cymru yn Fenis, dechreuais gymryd diddordeb go iawn mewn ysgrifennu. Perfformiais yng ngŵyl celfyddyd fyw Experimentica yn 2015, yn Salon Lenyddol y Polari yn Theatr Chapter ac yn un o ddigwyddiadau Canfyddiadau/Perspectives yn Nyffryn Elan.

Ar ôl sgyrsiau yn Fenis yn 2015 dechreuais ar brosiect gyda g39 a The Trinity Centre (y ddau yng Nghaerdydd) - fy narn cyntaf o ymwneud cymdeithasol! Roedd Just Between Us yn cynnwys dosbarth Saesneg i Ffoaduriaid / Ceiswyr Lloches, ac yn cynnwys gweithdy barddoniaeth hapgael gyda Jeremy Dixon (Hazard Press). Arweiniodd hefyd at ddarn testunol wedi'i animeiddio, a chyhoeddiad cysylltiedig, yng ngofod Unit(e).

Yn ystod y gwanwyn, gwnes gais llwyddiannus am breswyliad (NOT) In Residence gyda ArcadeCardiff a dw i wrthi'n ystyried ffyrdd o greu delweddau, testunau a pherfformiadau i'w defnyddio mewn amgylcheddau ffisegol a rhithwir.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Sightseers
Just Between Us
  • Thomas Williams, <i>Isola (dwyrain)</i>
  • Thomas Williams, <i>Rialto Postcards</i>