Rwy'n hoff o'r syniad o blygu rhywbeth sy'n hollol gyffredin, fel mynegiadau coll, i greu rhywbeth mor ecstatig ac aruchel â chân gorawl.
Ochr yn ochr â Rumblestrip, rydym yn dangos prosiect gan Tom Cardew, sydd wedi gweithio gyda g39 dros y flwyddyn ddiweddaf i ddatblygu gosodiad newydd. Mewn lleoliad sy'n edrych fel storfa oriel, chwaraeir cyfres o naratifau cysylltiedig gan rithffurfiau sydd wedi'u cynhyrchu gan gyfrifiadur. Yn anniben ac nid yn hollol o'r byd presennol, ysbrydion ydynt. Mae eu lleisiau a'u straeon yn tynnu sylw fel rhai sydd yn bendant yn ddynol, wrth iddynt fynd ar gyfeiliorn, baglu dros eiriau ac anghofio'r hyn maent yn ei drafod, yn llithro o synnwyr i lol. Clebra'r grŵp ymlaen, wedi'u datgysylltu ac ar wahân yn ôl pob golwg, cyn dechrau cydamseru fel côr.
Gan ddefnyddio technolegau digidol, perfformiad comedïaidd, cân, a gosodiad sy'n peri penbleth fawr, mae gwaith Tom yn g39 yn archwilio dulliau cyfathrebu a lefelau dealltwriaeth – a chamddealltwriaeth – sy'n digwydd ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol. Cyflwynir y gwaith mewn gofod nad yw ar agor i'r cyhoedd fel arfer, gan eich tywys drwy gypyrddau storio a thechnoleg sydd wedi dyddio, sgriniau taflunio a bocsys cardfwrdd. Mae'r coridor hwn yn eich arwain at yr hyn sy'n edrych fel cefn theatr bren cyn agor allan i ystafell yn llawn sgriniau.
Mae'r un wyneb o ddelwedd sydd wedi'i chynhyrchu â chyfrifiadur (CGI) yn syllu allan o bob sgrin, ond mae'n ymddangos fel pe na bai’n ymwybodol ohonoch, neu'r wynebau unfath eraill, wrth i'r dorf o rithffurfiau gwrywaidd blinedig daflu eu lleisiau, gan fwmian, gweiddi ac arthio er mwyn cael gair i mewn.
Gwelaf fod galw gwirioneddol i gelf siarad drwy iaith fodern: sut mae pobl a diwylliant yn ymateb i ddatblygiadau'r cyfryngau a chyfathrebu, a'r modd esblygol y mae ymgysylltiad cymdeithasol a chyfathrebu yn newid, yn enwedig o ran y ffurfiau cyfathrebu tameidiog sy'n gwrthdynnu'n barhaol ar ffurf memynnau, trydariadau a dulliau cyfryngau cymdeithasol eraill o'r un fath.
Yn y pen draw, mae pob llais yn cydweddu, ac yn cydgordio i rannau o'r un gân, llais a rennir ar batrwm cyfarwydd cytgan a phennill. Mae Cardew yn mynd â thechnolegau sy'n ymddangos yn artiffisial ac yn hirbell iawn ac mae'n darganfod eu bod yn rymus, gan ddod o hyd i rywbeth sy'n ddynol ac yn fregus iawn ynglŷn ag angen i gysylltu sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants