Nid oes llawer o gysylltiadau amlwg rhwng ymarferion yr artistiaid yn Apropos of Nothing. Ar yr arwyneb maent yn ymddangos i weithredu mewn gwahanol gylchoedd o gyfathrebiad a mynegiant. Er hynny, yr hyn sydd ganddyn nhw’n gyffredin, yw’r gallu i gymryd elfennau o’r byd go iawn - momentau segur neu wrthrychau hepgorol – a’u trawsffurfio nhw.
Yn y ffenestr cyflwynir Proposal for the Redevelopment of Withewood Comprehensive
Sports Field, 1974 gan Richard Higlett maes chwarae anhrefnus ble mae’r goliau i gyd yn amhriodol o briodol. Mae’r herwgipiad yma o fodelau pensaernïol manwl a’r ‘gêm hardd’ yn creu tir peryglus ar gyfer ei chwaraewyr, mae cystadleugarwch a rheolau anhyblyg yn cael eu trawsfeddiannu gan gêm mwy anhrefnus a chreadigol.
Ar gyfer Schadenfreude, mae Bedwyr Williams yn defnyddio lluniau o bapur newydd leol o raddedigion yn dathlu i sillafu’r gair ar wal yr oriel. Mae ei sylwebaeth ar baramedrau sefydledig Cymreictod a llwyddiant yn nodweddiadol o waith yr artist. Ymddengys yn wastad i fod mewn cyflwr o gwestiynu ac ailddarganfod y byd o’i gwmpas, a chawn ein cyflwyno gyda chyfres o weddillion a delweddau anghydweddol wedi eu cymryd o’i amgylchedd wrth iddo ddychwelyd i Gymru. Mae model plastig o Bedwyr yn eistedd ar y llawr yn gwrando ar radio leol ac yn edrych yn ôl ar ei waith, yn atgyfnerthu’i safbwynt fel dieithryn; mab afradlon yn dychwelyd. Gafaelia model yr artist ar gyfres o luniau, casgliad esgid ffugionol sy’n cynnwys y Kyffin a’r Bala, y bastiynau o gelf Gymreig ar y pryd yn cymryd lle yr Adidas neu’r ‘tic Nike’. Mae Bedwyr yn parhau’r modd yma o feddwl mewn dau ymyriad ar y llawr uchaf: caiff dwy gyfrol celf Gymreig eu dangos fel platiau coffaol, ond mae’r teitlau wedi’u newid, gan newid disgwyliad y gwyliwr o beth sydd rhwng y cloriau hefyd.
Ar yr ail lawr, mae Michael Murray hefyd wedi trawsffurfio eitemau hepgorol neu ddinod yn ei ddarn Plastic Rucksacks. Fe ddefnyddia deunyddiau anghonfensiynol i greu arbrofiadiau alcemegol gyda gweddillion bywyd bob dydd. Ymdodda bloc o floneg o dan gwres lamp, a thrwy gyfres o bwlïau a rhaffau y caiff sachau teithio plastig eu codi a’u gollwng i mewn i belydryn o olau. Mae prydferthwch y nos las a’r dydd melyn yn cael eu gwyrdroi i greu cylch o fywyd a marwolaeth gyda dauddeg pedwar cilogram o floneg.
Ar y llawr uchaf y gallwn glywed swn swyddfa brysur cyn i ni weld The Interludes gan Richard Higlett, ond mewn gwirionedd mae hi’n bell o fod yn swyddfa brysur: mae e’n archwilio’r eiliadau pan mae’r ymennydd yn segur ond eto yn greadigol. Ar waith fideo aml-sgrin mae’n cydosod ticiau isymwybodol gweithwyr swyddfa i greu symffoni ddatgymalog. Caiff breuddwydion ac uchelgeisiau’r gweithwyr eu rhyddhau mewn chwyldroad cerddorol. Mae taro amyneddgar bysedd yn tabyrddu agorawd Rossini i William Tell, daw rhathu ewin yn ysgubiad bwa feiolín wrth iddi rathellu Spring o’r Four Seasons gan Vivaldi. Mae cliciadau beiro yn troi i fod yn Montagues and Capulets gan Prokofiev, ac mae ewin yn tapio ar gwpan yn cael eu trawsffurfio i Morning y Peer Gynt Suite gan Grieg.
Os nad oedd y cipolwg yma ar segurdod yn ddigon, wrth iddyn ni fynd i lawr y grisiau mae cloch Bedwyr yn ein hatgoffa o’r amser yr ydym ni newydd dreulio yn edrych ar y gwaith. Mae dywediad Cymreig o’i dan yn datgan yn fygythiol taw ‘yr euog a ffu a neb yn ei erlid’.
Yn yr arddangosfa yma, mae’r artistiaid yn agosáu at bywyd bob dydd ac yn gweld pethau ar lefel arall: cerddoriaeth mewn diflastod ac arbrofiadau mewn gwastraff. Apropos o ddim, daw eu gweithiau yn propos o rywbeth. Does yna dim sydd yn ymwneud â dim a thra bod eu dechreuadau yn amrywiol mae’u defnydd o hiwmor a’u persbectif gwyrgam ar y pethau yr ydynt yn dod o hyd iddo yn llwyddo i ddenu a chythryblu’r gwyliwr.