The Independents

In ‘2001 Wales: Unauthorised Versions’, an exhibition of work by artists from Wales, was put together by curator Alex Farquharson for the newly converted exhibition space at the HDLU building in Zagreb, Croatia. In 2004, g39 was invited to select artists from Croatia for a reciprocal exhibition to take place in g39, Cardiff.

Yn '‘2001 Wales: Unauthorised Versions’, cafodd arddangosfa o waith gan artistiaid ledled Cymru ei chasglu ynghyd gan y curadur Alex Farquharson ar gyfer y gofod sydd wedi'i adnewyddu i arddangos gwaith artistiaid yn adeilad yr HDLU yn Zagreb, Croatia. Yn 2004, gwahoddwyd g39 i ddewis artistiaid o Croatia er mwyn cynnal arddangosfa gyfatebol yn g39, Caerdydd.


O safbwynt rhywun o'r tu allan, mae'r gelf a geir yn Croatia yn debyg i'r hyn a geir yng Nghymru. Mae yna nifer o artistiaid cyfoes sy'n creu gwaith gyda themâu a / neu bryderon sy'n berthnasol i bawb, ac eraill sy'n cynhyrchu gwaith sydd wedi'i seilio mewn sylwebaeth gymdeithasol neu wleidyddol sy'n neilltuol i'r ardal. Mae'r galw am gelf yn brin, ac nid oes diddordeb gan y mwyafrif mewn cyflawniadau ym maes celf gyfoes, gan orfodi'r rhan fwyaf o artistiaid i ddod o hyd i ddulliau newydd o oroesi. Mae'r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa hon yn creu gwaith sydd heb os wedi'i wreiddio mewn sefyllfa Slafig, ond a allai hefyd fod yn ddisgrifiad o'n gwlad ni.

Mae gan waith Igor Grubic weithrediaeth wleidyddol penodol wrth ei wraidd, yn amrywio o brotestiadau undydd yn erbyn treth wladol ar lyfrau hyd at ailadrodd camweddau gwleidyddol cywilyddus y 1960au. Ar gyfer ei waith Velvet Underground gwahoddodd Grubic garcharorion Carchar Lepoglava i gymryd rhan yn ei waith. Tynnwyd ffotograffau o Grubic yn eu celloedd, mewn gwisgoedd anifeiliaid. Mae'r lluniau'n mynd law yn llaw â thestun sy'n nodi oedran, troseddau a chrynodeb o freuddwyd neu ffantasi plentyndod y carcharorion. Nod y prosiect yw rhoi sylwadau ar y tensiynau greddfol rhwng yr hyn sy'n sbarduno'r unigolyn a chyfansoddiad moesol y gymdeithas.

Mae Ivan Faktor ymhlith nifer o artistiaid sy'n cynhyrchu gwaith sy'n gyferbyniol i hanes swyddogol y rhyfel yn ystod y 1990au. Mae'n cyfuno ffotograffau dogfennol, fideo a cherfluniau â ffilmiau, rhai Fritz Lang yn benodol. Gan dalu teyrnged i Lang, mae Faktor yn defnyddio archifau preifat ei ddyddiadur fideo o'r rhyfel a gofnodwyd yn ei dref enedigol, Osijek, yn 1991-92, er mwyn creu Das Lied Ist Aus, rhaglen ddogfen ryfel hypnotig am ei wlad. Mae yna nifer o gymariaethau â ffilm Lang M. Mae tebygrwydd rhwng y crynodebau, y naill yn ymwneud â seicopath mileinig sy'n dianc rhag isfyd Berlin, a'r llall yn dyst i ddinas sy’n cael ei herlid, yn llawn galar, abswrdiaeth a thrais.

Crewyd Cross Tree gan Ana Seric (cywaith gydag Ana Husman) pan gafodd hunaniaeth y ddwy eu cymysgu’n ddamweiniol ar deledu cenedlaethol Croatia. Cafodd enw a gwaith Ana Seric eu cyflwyno gyda llun o Ana Husman. Ar ôl hynny, dechreuodd y ddwy feddwl am y posibilrwydd o gyfnewid hunaniaeth mewn bywyd go iawn. Dechreuodd y ddwy gwestiynu hunaniaeth unigolyn, a'i hystyr, ar lefel fyd-eang. Y cwestiwn roeddent am ei ofyn oedd, beth sy'n penderfynu pwy ydym ni? Ai ein henw, ein man geni, yr hyn sydd wedi digwydd i ni yn ystod ein hoes? A pha mor hawdd ydyw i addasu'r hunaniaethau hyn? Gan ddefnyddio lluniau a hanesion eu teuluoedd, fe wnaethant greu hanes newydd am eu teuluoedd sy'n rhannol ffeithiol, yn rhannol ffuglen. Fe wnaethant hyd yn oed ddarganfod cysylltiad â'i gilydd, a daethant i'r casgliad eu bod yn perthyn mewn gwirionedd.

Mae Kristina Leko yn artist cydnabyddedig yn Croatia, ac mae hi wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hi'n gweithio'n bennaf gyda fideo a ffotograffiaeth, ac mae'n eu defnyddio'n bennaf i gofnodi ei chyswllt gydag arferion cymdeithasol a masnachol, ac i roi sylwadau ar hunaniaeth Croatia. Mae On Milk and People yn ymwneud â'r sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol a geir yn Croatia a Hwngari. Cafodd y prosiect dogfennol hwn ei greu wrth gydweithio â 10 o deuluoedd ffermio, pum teulu o Croatia a phump o Hwngari. Mae'n archwilio bywyd bob dydd a sefyllfaoedd cymdeithasol nifer o ffermydd bach yn y ddwy wlad, gan roi mewnwelediad i fywydau pobl yn cael eu newid wrth i'r gwledydd newid o sosialaeth i gyfalafiaeth, a'r broses o uniad Ewropeaidd. Mae'r holl deuluoedd sy'n ymwneud â'r prosiect yn ennill eu bywoliaeth drwy gynnyrch nwyddau llaeth. Mae fideo dogfen fer yn dangos diwrnod yn ystod bywyd pob teulu o ben bore hyd at y nos, sef y ddau achlysur dyddiol pan mae'r gwartheg yn cael eu godro. Mae cyfweliadau gydag aelodau'r teulu yn datgelu eu bywyd cymdeithasol, ariannol ac weithiau eu bywyd personol.

Mae gwaith Andreja Kuluncic yn fath o labordy cymdeithasol, sy'n ymwneud â deunydd ymchwil, arolygon, arolygon barn a chyfweliadau, trafodaethau panel, darlithoedd gwyddonol, gweithdai, cylchlythyrau, gemau rhyngweithiol ar y we, fideos a recordiadau sain. Mae hi wedi gweithio mewn cydweithrediad â chymdeithasegwyr, biolegwyr ac arbenigwyr eraill ar brosiectau diweddar. Ar gyfer un prosiect, bu'n gweithio gyda chyflogeion NAMA, sef cadwyn o siopau adrannol a oedd yn llwyddiannus yn Croatia yn benodol o dan y gyfundrefn Sosialaidd. Mae NAMA yn hanu o'r gair NArodni MAgazin, sy'n golygu 'Siop y Bobl'. Oherwydd datblygiad economaidd y wlad, mae'r siopau hyn bellach yn fethdalwyr, ac mae'r siopau fwy neu lai wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn cael eu cadw ar agor gan y cyflogeion. Rhoddodd Kuluncic lun cyflogai ar ddeg bwrdd poster yng nghanol dinas Zagreb a oedd yn dwyn y teitl NAMA - 1908 o Gyflogeion, 15 o Siopau Adrannol. Yn seiliedig ar adnoddau, gwerthoedd a lleoedd yr hysbyseb, dechreuwyd dadl gyhoeddus yn ymwneud â thrawsnewidiad economaidd Croatia. Mae'r cyflogai ar y poster yn symbol o'r unigolyn, a'r amryw drychinebau sy'n mynd law yn llaw â'r newidiadau yn economi Croatia.

Hoffai g39 ddiolch i'r Weinyddiaeth Ddiwylliant a chymuned yr artistiaid, yn enwedig Marijana Mance a Leila Topic, trwy eu cymorth amhrisiadwy nhw fe wnaethon ni gyfarfod â nifer o artistiaid, ymweld â llawer o orielau a stiwdios a gwylio sawl rholyn ffilm a dogfennaeth.

Programme