
Emanuel Almborg, The Nth Degree, still 2019
Mae proses Emanuel Almborg yn aml yn arwain at waith celf darlun byw, ond yn cynnwys cydweithrediadau a sefyllfaoedd ar sail ymchwil. Mae ymchwil fel arfer yn chwilio cwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth ac yn meithrin perthnasau rhwng digwyddiadau hanesyddol a chyfoes.
Mae ei waith yn aml yn edrych ar ffyrdd uniongyrchol a distrwythur o ddysgu, nad ydynt yn hierarchaidd, gan ganfod atseiniau rhwng pobl o wahanol gyfnodau a lleoedd. Fel man cychwyn, cymerai ymchwil i iwtopiâu hanesyddol a darnau o ddyfodol a phosibiliadau coll. Mae gwaith blaenorol wedi archwilio ein perthynas â thechnoleg bob dydd. Roedd
Learning Matter, 2017, yn brosiect ar y cyd gyda'i fam a grŵp o blant. Gan ddefnyddio clai, ffotograffiaeth a fideo, gwnaethant archwilio effaith defnydd rheolaidd o gyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar ar gyfnod canolbwyntio, rhyngweithio cymdeithasol a sut yr ydym yn gweld y byd, gan ystyried sut y mae amodau materol a thechnolegau'n llywio cysylltiadau cymdeithasol. Mae'n aml yn dechrau o'r rhagosodiad fod galw cynyddol yn ddiweddar am weledigaethau a senarios gwleidyddol a chymdeithasol newydd, ac mae ei waith yn gofyn pa rôl y mae celf a'r darlun byw yn gallu ei chwarae wrth fraslunio gweledigaethau a senarios o'r fath ac arbrofi gyda nhw.
Cwblhaodd Emanuel Almborg
Raglen Astudio Annibynnol Whitney yn Efrog Newydd, 2015, ac ar hyn o bryd mae’n ymgeisydd doethurol yn Sefydliad Brenhinol y Celfyddydau, Stockholm. Mae ei waith wedi'i ddangos yn ddiweddar yn Moderna Museet, Stockholm, Oriel Whitechapel, Llundain, a Cell Project Space, Llundain.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Rumblestrip