GWENBA

b. 1997
Byw a gweithio Carmarthen

Lost in Green
Lost in Green

Artist amlddisgyblaethol cyfryngau newydd sydd bellach wedi ei lleoli yn Ne Cymru yw GWENBA. Mae ei gwaith yn archwilio’r berthynas rhwng gofodau organig a rithiol drwy berfformiadau, sain, fideo ac arbrofion testun. Mae’n aml yn cymryd y ffurf o dyfiannau digidol neu arbrofion gyda sylwedd craidd y ddaear.

Mae gan GWENBA ddiddordeb mewn archwilio cyfathrebiad a chysylltiad, gan ddynwared ffurfiau natur i gyflawni naratif cymhleth a haenog, yn ffrwythlon/gyfoethog mewn hiwmor tywyll. Mae hyn wedi ei osod dros ffantasmagoria o ffurfiau estronaidd o wead cartref. Mae cerflunwaith 3D a thriniaeth data yn rhan ganolig o’i chwedlau. Ei gwaith yw’r palimpsest gorffenedig ble mae naratif gwreiddiol a hynafol yn plethu.

“Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio gyda deunyddiau , mwd, mwsogl, hadau, llwydni, ffyngau ayyb – (sydd a newidion ac ansicrwydd). Patrymau tyfiant sy’n ail-gyfosod eu hunain i mewn ac ar ddarnau mec/tec ailgylchedig, ychydig fel olyniaeth arbrofion gwyddoniaeth freuddwydiol, gyda sbesimenau ar wasgar. Mae fy ngwaith cyfredol MyCelium Systems yn archwilio’r rhwydwaith o gyfathrebiadau sydd yn bodoli ym myd natur drwy berthynas symbiotig a ffyngau. Astudiaeth o systemau ymreolus a rhwydweithiau symbiotig sy’n bodoli yn natur sy’n adlewyrchu prosesau technolegol ac arferion = datax[]”

Graddiodd GWENBA o brifysgol Falmouth ac mae yn nawr wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin. Mae ei harddangosfeydd diweddara yn cynnwys auto:save RHIZODOME, arddangosfa ddigidol, 2021 a auto:save presents, Ancient Futures in Organic Cyberspace (Adeiladu a Churadu), 2020. ArcadeCampfa, Caerdydd, earth:born, 2020 a’r breswylfa Five Years Archway (Instagram) a BLOOD ORANGE – whimsy Presents: Silver Bells & Cockle Shells yn The Space, Bryste, 2019. Mae GWENBA hefyd yn ysgrifennu ochr yn ochr a’i hymarferiad, Feed My Quarentein vol.II, zine digidol, 2020, Maes B – Zine Merched Yn Gwneud Miwsig 01, Preswylfeydd yn 2020 yn cynnwys Tate St. Ives, Egin-artist y flwyddyn, 2019, LAWAYAKACURRENT, San Pedro de Atacama, 2019 yn o gystal ag artist preswyl digidol gyda ArcadeCampfa, 2020. Cafodd ei gwahodd yn ddiweddar i gynhyrchu fideo cerddoriaeth i Adwaith – ARAF DEG.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Jerwood UNITe 2021 Open Studios

Dolenni :
www.gwenba.com
  • Lost in Green
  • Earthborn
  • Blood Orange
  • Atacuentos