Artist amlddisgyblaethol cyfryngau newydd sydd bellach wedi ei lleoli yn Ne Cymru yw GWENBA. Mae ei gwaith yn archwilio’r berthynas rhwng gofodau organig a rithiol drwy berfformiadau, sain, fideo ac arbrofion testun. Mae’n aml yn cymryd y ffurf o dyfiannau digidol neu arbrofion gyda sylwedd craidd y ddaear.
Mae gan GWENBA ddiddordeb mewn archwilio cyfathrebiad a chysylltiad, gan ddynwared ffurfiau natur i gyflawni naratif cymhleth a haenog, yn ffrwythlon/gyfoethog mewn hiwmor tywyll. Mae hyn wedi ei osod dros ffantasmagoria o ffurfiau estronaidd o wead cartref. Mae cerflunwaith 3D a thriniaeth data yn rhan ganolig o’i chwedlau. Ei gwaith yw’r palimpsest gorffenedig ble mae naratif gwreiddiol a hynafol yn plethu.
“Mae gen i ddiddordeb mewn gweithio gyda deunyddiau
Graddiodd GWENBA o brifysgol Falmouth ac mae yn nawr wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin. Mae ei harddangosfeydd diweddara yn cynnwys auto:save RHIZODOME, arddangosfa ddigidol, 2021 a auto:save presents, Ancient Futures in Organic Cyberspace (Adeiladu a Churadu), 2020. ArcadeCampfa, Caerdydd, earth:born, 2020 a’r breswylfa Five Years Archway (Instagram) a BLOOD ORANGE – whimsy Presents: Silver Bells & Cockle Shells yn The Space, Bryste, 2019. Mae GWENBA hefyd yn ysgrifennu ochr yn ochr a’i hymarferiad, Feed My Quarentein vol.II, zine digidol, 2020, Maes B – Zine Merched Yn Gwneud Miwsig 01, Preswylfeydd yn 2020 yn cynnwys Tate St. Ives, Egin-artist y flwyddyn, 2019, LAWAYAKACURRENT, San Pedro de Atacama, 2019 yn o gystal ag artist preswyl digidol gyda ArcadeCampfa, 2020. Cafodd ei gwahodd yn ddiweddar i gynhyrchu fideo cerddoriaeth i Adwaith – ARAF DEG.