Artist wedi ei lleoli rhwng Llundain a Swydd Aeron yw Wendy Short. Mae’n cael ei hysgogi gan sut rydym yn gwneud synnwyr o’r gorffennol, y presennol a’n cysylltiadau gyda’n gilydd. Mae Wendy yn archwilio treigl amser, defnydd hanesyddol o safleoedd ac ystyr sy’n gysylltiedig â safle drwy recordiadau maes a delwedd symudol. Wrth wneud hyn, mae Wendy yn gosod ei hun mewn cyd-destun ac yn gwneud ymyriadau wedi eu dylunio i gloddio hanesion, rhwydweithiau anffurfiol a naratif cudd a gallai fel arall barhau i gael eu hanwybyddu neu heb eu cadw.
Yn ystod UNITe nod Wendy yw archwilio a datblygu ffilm newydd sy’n cymryd y corff fel archif ac sy’n cael ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau sy’n amgylchynu trawsblaniad aren ei mam. Bydd Patsy (teitl gweithredol) yn ffilm am amser, moesoldeb, microchimera a phŵer dawns.
Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys Overtime (2016-17) sy’n dogfennu misoedd olaf gofod byw/gweithio hir dymor yn Nwyrain Llundain cyn ailddatblygiad. Fe gydweithiodd Wendy gyda thrigolion presennol i lwyfannu digwyddiadau yn y gofod yn cynnwys perfformiadau gan cyn-denantiaid a chyfeirio at y rhwydweithiau creadigol a luniwyd drwy gyd-fyw. Fe saethwyd Natural Magic: Filmed Notes from Eigg (2018) tra ar breswylfa yn Sweeney’s Bothy ar yr Eigg: ynys sy’n adnabyddus o fod perchen gan y gymuned, arloeswr mewn cynaliadwyedd ac sy’n cael ei symboleiddio gan yr eiconig An Sgurr (plwg folcanig ble mae’r llosgfynydd o’i gwmpas wedi erydu dros gyfnod). Gan dynnu o’i chymuned ei hun, casglodd Wendy negeseuon wedi eu hysgrifennu mewn sudd lemon a datguddiwyd gan wres stof tân y cwt mewn absenoldeb y rhyngrwyd neu gysylltiad ffôn symudol. Mae’r nodiadau wedi eu torri gyda ffilm 16mm yn dogfennu’r ynys, a chafodd ei eco-brosesu gan ddefnyddio deunydd planhigion wedi eu fforio.
Mae gan Wendy MA mewn Gwneud Ffilmiau Arbrofol (Experimental Filmmaking) a MA mewn Paentio a Hanes Celf. Ar wahân i’w gwaith ei hun, mae hi wedi creu ffilmiau am y prosesau creadigol ar gyfer University of the Arts, Llundain, The Jocelyn Herbert Archive a’r gantores Ingrid Plum. Yn fwy diweddaraf fe ddewiswyd Wendy i gymryd rhan yn y 2020-21 London Creative Network yn SPACE. Dangoswyd ei gwaith ffilm yn y DU a Berlin ac mae hi bellach yn dysgu sut i chwarae’r theremin.