
Mae Yewande YoYo Odunubi yn artist ac ymarferydd niwroddargyfeiriol sy’n gweithio yn y gofod rhwng cynhyrchu/curadu, dawns/perfformio, ac ymchwil.
Yn ganolbwynt i’w hymarferiad yw’r mantra “I’m not here for a version of me, I’m here for every part of me”, mae gan Yewande ddiddordeb mewn cyflwyniadau gwirioneddol, fframweithiau groestoriadol ac ymyriadau sy’n chwilio i dorri’r naratif cryfaf yn y celfyddydau. Wedi ei phweru gan ddychymyg du ymledol, mae Yewande yn rhoi sylw i feithrin amgylcheddau a chydweithrediadau ar draws cyfryngau sy’n rhoi amser a gofod i gyfnewidiau llawn dychymyg ac ystyr.
Mae ei gwaith a diddordebau diweddar yn ystyried sut mae’r corff yn gallu bod yn drosglwyddydd deinamig ac yn ddrych ar gyfer meddwl am brosesau, syniadau, a hanesion. Drwy ddull atblygol, mae Yewande yn archwilio ei diddordeb yn y corff fel cyfrwng i wyntyllu gronynnau wedi eu coffori i gynhyrchu a datblygu gwaith celf byw a gweledol. Mae ganddi ddiddordeb yn enwedig yn y gofod cysylltiedig rhwng perfformiadau Du a rôl y cynhyrchydd/curadur Du fel rhan o’r perfformiad.
Mae arbrofion cyfredol Yewande,“Self-Permission”, yn mynd i'r afael a’r coreograffi rhwng corff a llais. Gan arbrofi drwy berfformio i gamera a gwaith testun-fideo, mae’n edrych i chwarae a pherfformio rhwng ffiniau o’r hyn sydd yn, neu ddim yn weledol, dywededig a dealledig.
Ar hyd fy oes, dw i wedi cael fy nenu at y gofodau rhwng syniadau, prosesau a ffurfiau gwahanol, dan gyfaredd a’u perthnasau, hynodrwydd a thrawsgroesiadau. I weithio drwy’r cysylltiadau hyn, mae gen i ddiddordeb penodol mewn defnyddio fy nghorff fel man ymchwilio i archwilio gofodau rhwng gwahanol symudiadau, perfformiadau ac ymarferiadau gofal sy’n fy ngalluogi i arbrofi gyda syniadau o amgylch ymarferiad ymgorfforol.
Mae Yewande aelod o’r deuawd cydweithredol gwamal symudol i.as.in.we gydag artist, curadur a ffrind Rohan Ayinde. Fel Cynhyrchydd Diwylliannol mae’n cydweithio yn aml gyda churaduron celf a cherddoriaeth o Lundain, BBZ a Touching Bass, ac wedi gweithio gyda dilyniant o sefydliadau diwylliannol, gan gynnwys 198 Contemporary, A New Direction, Institute of Contemporary Arts, Now Gallery, Southbank Centre, Tate, Wellcome Collection a V&A.