
Bright Dynasty (2022) Installation View, shown at 228 Chingford Mount Hypha Studios Residency with London Borough of Waltham Forest - Photo by Rosie Reed Gold
Mae Adam yn artist Prydeinig- Sant Lwsian trawsddigyblaethol sydd wedi ei leoli yn Llundain ac sy’n gweithio gyda dawns. Mae ei waith yn archwilio amlddiwylliannedd, undod a gwydnwch, yn syntheseiddio dimensiynau deunydd, synhwyraidd ac ysbrydol o’r hunan gyda’r byd a gydag eraill.
Yn galeidosgopig a sensitif, yn gydweithredol ac yn ymgysylltu’n gymdeithasol, mae Adam yn gosod ac yn arsylwi prosesau ymgorfforedig yn trawsffurfio ar draws dawns, ffilm, paentio, cerflunwaith, sain a thestun. Mae’n dylunio, adeiladu a meithrin gosodiadau perfformiad sy’n sefydlu ac yn ymateb i ofal, agosrwydd a helaethrwydd i’w hunan gydag eraill a’r amgylchedd.
Yn ysgolhaig celfyddydau perfformiadol Trinity Laban Leverhulme gyda MFA mewn Ymarferiad Creadigol Dawns, fe dderbyniodd cefnogaeth gan Jerwood Arts, Hypha Studios, UP Projects a Flat Time House, a-n The Artists Network, Theatrum-Mundi, Jupiter Artland, Haarlem Artspace, a Newham London. Mae Adam wedi cyflwyno gwaith yn London Topophobia, Limehouse Town Hall, Siobhan Davies Dance, RAWLab (Bow Arts), The Yard, Hackney Wick, Haarlem Artspace, [SPACE], Guest Projects, Newham a Old Stratford Town Hall, The Place, Llundain, Kunstraum, Llundain, a Flat Time House. Mae ar hyn o bryd yn addysgu rhaglen Youth Collective Transformative Futures yng nghanolfan Camden Art Centre, ac yn ysgrifennu ar gyfer Dance Art Journal.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: UNITe22 Dolenni :www.adammoorecreate.com