31 Ionawr - 7 Mawrth 2009

Helen Sear installation view of Display, 2009. Courtesy of the artist
This exhibition reaches us in five parts, the four distinct works in the gallery and a publication. Tale is a collection of images and narrative response to the work that gives us the opportunity to evaluate the breadth of work produced since 1992. Rather than acting simply as an exhibition catalogue, it holds the key to her exhibition at g39, allowing us to pick up on recurring motif, departures in image and style and habitual re-visitations to the same territory.
Throughout Sear’s practice is an ongoing enquiry into beauty and nostalgia, ranging from the grand opulence of Italian interiors or a rural vista, to abandoned detritus in a wooded glade or a forgotten ornament.
Mae’r arddangosfa hon yn gyfuniad o bum rhan, sef pedwar darn o waith nodedig yn yr oriel, ac un cyhoeddiad. Mae Tale yn gasgliad o ddelweddau ac ymatebion naratif i’r gwaith sy’n gwerthuso ehangder y gwaith a grewyd ers 1992.
Drwy gydol gwaith Sear ceir ymholiad parhaus i harddwch a hiraeth, yn amrywio o’r cyfoeth mawr y tu mewn i adeiladau Eidalaidd neu olygfa wledig, i falurion gadawedig mewn llannerch goediog neu addurn angof.
Mae'r llawr gwaelod yn gartref i'r casgliad ffotograffig
Inside the View , sef cyfres sy'n dangos ffigyrau a thirweddau a gymerwyd mewn lleoliadau daearyddol gwahanol, wrth ddymchwel y gofod ffotograffig confensiynol rhwng y gwyliwr a'r olygfa. Mae'r dirwedd yn amsugno'r ffigwr, gan arnofio o’u blaen a thrwyddynt fel gorchudd; fel ni, mae pob pen yn wynebu'r dirwedd, yn llonydd, a bob amser yn edrych. Yn y seler mae gosodiad fideo yn archwilio tirwedd fel safle atgof a dyhead; gydag awgrymiadau o’r tarddiad ar ffurf sioe sleidiau, mae
Projection yn gwneud i ni ymgolli mewn cyfres o dirweddau lliw, er bod y camera wedi’i osod i edrych yn ôl at baladr y taflunydd. Mae'r gwyliwr y tu mewn i'r olygfa unwaith eto yn y cydadwaith hwn, y cyfnewid hwn rhwng gwyliwr a golygfa.
Ar y llawr cyntaf, mae
Display yn brofiad syfrdanol o fod mewn tŷ adar, wrth i’r poster anferthol ar ffurf print orchuddio’r holl waliau. Dechreuodd fel cyfres o ffotograffau digidol o arddangosfa tacsidermi a dynnwyd yn yr Amgueddfa Astudiaethau Natur yn Florence. Mae Sear wedi trin y delweddau gan ddefnyddio ymagwedd hynod o drefnus. Mae’n tarfu ar y ddelwedd, ac yn datgelu gwybodaeth sy’n ddwfn yn y ffotograff. Mae’r dadansoddiad ailadroddus a’r ailddadansoddiad yn datgymalu’r arwyneb. Yn dilyn hyn, mae’n rhyddhad i gamu i naratif syml a chysurus
Flown. Mae cawell adar wag yn cylchdroi yn ôl ac ymlaen yn annibynnol, ac ymddengys ei fod yn hongian heb gymorth.
Mae llyfr
Tale sy’n cyd-fynd â’r casgliad sy’n gwerthuso ehangder y gwaith a gynhyrchwyd gan Sear ers 1992, ac mae’n allweddol i’r arddangosfa hwn. Mae’n amlinellu’r naratif drwy gydol ei gwaith yn ogystal â’r gwrthdrawiadau a’r cysylltiadau angenrheidiol rhwng delweddau cyfagos.
Mae
Tale hefyd yn cynnwys naratif a ysgrifennwyd gan David Chandler, cyfarwyddwr Photoworks yn Brighton. (ISBN 978-0-9541810-7-9).