19 Ebrill - 5 Mai 2008
Special arcade screening: Friday 18 April 8.00-9.15pm

Jennie Savage, A Million Moments (Wyndham Arcade screening 18 April 2008)
Ffilm safle benodol gan Jenny Savage yw A Million Moments a grëwyd tra ei bod yn artist preswyl gyda g39 am 3 mis. Cafodd y ffilm ei dangos yn Arcêd Wyndham yn wreiddiol fel digwyddiad safle benodol y dylid gwrando arni gan ddefnyddio clustffonau diwifr.
Mae'r ffilm yn gwahodd y gwylwyr i holi'r ddelwedd ac edrych y tu hwnt i'w harwyneb, a bod yn ymwybodol ar unwaith fod yr hyn maent yn edrych arno yn ddelwedd - cynrychioliad, efelychiad o leoliad - ond yna mapio'r ddelwedd honno, teithio drosti fel petai'r ddelwedd ei hun yn dopograffi neu'n dir i lywio drosti. Gwneir hyn yn syml drwy edrych a chael eich arwain gan y naratif. Wrth wneud hynny mae'r gwyliwr yn cael ei anfon ar daith, ac mae'r daith honno yn gyfryngiad ar yr arced, wedi'i ysgrifennu a'i adrodd gan yr artist. Mae'r testun a grëwyd ganddi yn seiliedig ar ei phrofiadau yn ystod ei chyfnod preswyl yn g39, pan gynhaliodd gyfweliadau gyda busnesau, haneswyr, arbenigwyr pensaernïol, siopwyr a hefyd fe wnaeth ei hymchwil ei hunan am yr arcêd yn Swyddfa Cofnodion Caerdydd a'r adran Astudiaethau Lleol. Nid creu llinell amser y lle hwn oedd y bwriad, ond dod o hyd i gasgliad o brofiadau a'u gwneud yn weladwy yn y ddelwedd. Ni roddir hierarchaeth benodol i'r adegau hyn a rhoddir yr un pwysigrwydd i bob un.
Nid yw'r ffilm ganlynol yn adrodd stori'r arcêd, ond yn hytrach mae'n chwyddo'r ddelwedd, gan wneud cysylltiadau rhwng yr hyn sy'n ymddangos ar y sgrin a'r hyn sy'n hysbys am yr hyn a welwn. Mae'r ffilm hon yn barhad o ddiddordeb mwy dwys y mae'r artist wedi bod yn ei archwilio, gan edrych ar ganfyddiadau o le a chynrychioliad o'r profiad hwnnw.
A Million Moments yw rhan gyntaf astudiaeth tymor hirach o arcedau Caerdydd gan Savage mewn corff newydd o waith sy'n dwyn y teitl
The Arcades Project: A 3D Documentary.
Mae gan Gaerdydd y nifer fwyaf o arcedau yn y DU gyfan, sy'n un o nodweddion hynod y ddinas, a aiff yn angof yn aml. Ystyrir arcedau siopa Fictoraidd hyn yn gryn asedau i dirwedd fasnachol Caerdydd ac maent yn gartref i lu o siopau a busnesau annibynnol.
Mae
The Arcades Project : A 3D Documentary wedi'i ysbrydoli gan Brosiect Arcedau Walter Benjamin yn arcedau Paris yn ystod yr 1930au lle'r oedd wedi archwilio'r gofodau hyn fel safleoedd archeolegol pan roedd cyfnod newydd o brynwriaeth yn gwawrio. Felly, mae'n ymddangos yn addas i archwilio arcedau Caerdydd drwy'r un dull hwn ond yng ngoleuni datblygiad siopau newydd Canolfan Dewi Sant 2, sy'n sicr yn awgrymu cam arall mewn datblygiad economaidd-gymdeithasol.