If.... Hayley Lock

16 Medi - 3 Hydref 2009

g39 is pleased to present the first instalment of If…, a new programme of exhibitions giving artists and curators the opportunity to show new work to a new audience. Throughout the season, g39’s ground floor will be utilised as a project space allowing selected artists and curators to experiment and expand on their current practices.

Mae g39 yn falch o gyflwyno'r rhan gyntaf o If…, sef rhaglen newydd o arddangosfeydd sy'n rhoi'r cyfle i artistiaid a churaduron arddangos gwaith newydd i gynulleidfa newydd. Drwy gydol y tymor, bydd llawr daear g39 yn cael ei ddefnyddio fel gofod prosiect a fydd yn caniatáu i artistiaid a churaduron arbrofi ac ymestyn eu harferion cyfredol.


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Hayley Lock wedi datblygu sawl darn o waith sy'n portreadu cymeriadau o'i byd dychmygol, ffigurau hynod sydd wedi cael eu datblygu o atgofion ei phlentyndod a'i dyheadau. Mae Hayley yn defnyddio'r cyfle hwn i gyflwyno'i chyfres ddiweddaraf o gymeriadau a grëwyd drwy brosiect newydd gan ddefnyddio sain arbrofol fel sgwrs haniaethol.

Mae arfer Hayley yn seiliedig ar atgynhyrchu, ailgyflunio a chofroddion. Mae ei dewis eang o gyfryngau yn cynnwys collage, trin pethau'n ddigidol, ffotograffiaeth, darluniadau ac anheddau 3D dychmygol, ynghyd â gwaith sain a grëwyd yn sgil adrodd straeon. Gan ddefnyddio cymysgedd bwriadol o gyfryngau uchel-ael ac isel-ael, mae gan gymeriadau Hayley gasgliad rhyfedd o ffyrdd o ymddwyn sy'n deillio o ddarnau o sgwrs, naratifau hanes a mythau sy'n cydblethu drwy gydol ei gwaith.

Nod y gwaith hwn yw datgelu anheddau dychmygol pobl ddychmygol, chwedlonol, benodol, gwrthrychau hierarchaidd brenhiniaeth a phendefigion. Mae gwaith Hayley yn aml yn awgrymu ffurf o bortreadau hanesyddol, ac maent wedi'u haflunio i'r fath raddau y bydd angen i'r gynulleidfa ailystyried yr hyn sy'n gyfforddus a'r hyn nad yw'n gyfforddus o bosibl. Mae'r delweddau afluniedig i'w gweld ar sawl ffurf, ac anaml iawn y byddant yn aros yn llonydd. Caiff y darnau hyn o waith eu haddasu dros gyfnod estynedig o amser, er mwyn cynnig y cyfle i ailddyfeisio diwedd anarferol, sy'n aml yn hynod.

This show was selected by
  • Michael Cousin
    • Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
    • Hayley Lock

    Programme