4 - 22 Mai 2010

Utilising the experimental freedom the If…. season offers to artists and curators, Samuel Hasler will adopt a new working habitat within g39, producing an evolving exhibition and accompanying performance. A large square blackboard, an object evident within Samuel’s drawings for some time, hangs in the centre of the gallery’s front window, impeding a clear view into the space. Using this ‘block’, Hasler comments on censorship, access, borders and obstructions within visual culture.
Gan ddefnyddio'r rhyddid arbrofol y mae'r tymor If... yn ei gynnig i artistiaid a churaduron, fe fydd Samuel Hasler yn mabwysiadu gweithle newydd yn g39, gan gynhyrchu arddangosfa esblygol a pherfformiad i gyd-fynd â hi. Mae bwrdd du mawr sgwâr, gwrthrych sydd wedi'i amlygu'i hun yn nyluniadau Samuel ers peth amser, yn hongian yng nghanol ffenestr flaen yr oriel, gan rwystro golygfa glir i'r gofod. Gan ddefnyddio'r 'bloc' hwn, mae Hasler yn gwneud sylwadau ar sensoriaeth, mynediad, ffiniau a rhwystrau o fewn y diwylliant gweledol.
Mae'r arddangosfa'n dechrau gyda marathon perfformiad 48 awr, lle mae Samuel yn gweithio gydag ystod gyfyngedig o ddeunyddiau a chelfi gan gynnwys planciau, posteri wedi'u printio'n arbennig a goleuadau, gan arwain yn raddol at adeiladwaith o fewn y gofod. Mae ei weithredoedd yn ymateb i'r ddinas a'i sefyllfa unig unigryw, gan ddilyn
sgôr thematig:
Oriau
0 Dechrau'r DIRWEDD. Llif deunyddiau. Trawsnewid y ciwb gwyn.
6 Taith y DIRWEDD. Darlun.
12 Patrymau TIRWEDD.
18 Patrymau DUW.
24 Gwacter Newydd DUW. Tywyllwch. Goleuni.
30 DUW OMG (pam mai ystyr dim byd yw Dim byd)
36 PENSAERNIAETH Adeilad Newydd. Dinas. Rhywbeth Allan o Ddim Byd.
42 PENSAERNIAETH Celfi. Croeso Cymru.
47 PENSAERNIAETH Diwedd Unigrwydd. Siarad â Phobl.
48 Diwedd y GEIRIAU.
Mae'r gwaith If.... gan Samuel, sy'n aml yn cyfeirio at gyfyngiad a derbyniant, wedi cael ei ysbrydoli'n uniongyrchol gan fideo gan Mark Wallinger sy'n dwyn y teitl Via Dolorosa 2002. Yn y gwaith hwn cyflwynodd Wallinger olygfa'r dioddefaint o'r ffilm 'Iesu o Nasareth'. Gyda'r sgwâr mawr du yng nghanol y sgrin, yr unig ran weledol yw ychydig fodfeddi ymylol y sgrin ac mae'r brif weithred bron bob amser yn anweledig. Mae dulliau o'r fath sy'n rhwystro mynediad, neu'n cyfyngu'r mynediad i'r gwaith, wedi bod yn ddull llwyddiannus i Samuel er mwyn creu'r synnwyr o ryfeddod ac arwahanrwydd o fewn gofod.