modus operandi

22 Gorffennaf - 19 Awst 2000

modus operandi
antony hall jillian simms


Mae modus operandi yn cyflwyno gwaith dau artist ble mae proses yn rhan hanfodol o’r gwaith y maent yn ei wneud. Mae teitl y sioe yn cyfeirio at y modd y mae person neu beiriant yn gweithio; Mae Tony Hall a Jillian Simms yn defnyddio dull o archwilio fel yr allwedd i fynegi syniadau.

Mae golwg allanol o gyfres o arbrofion gwyddoniaeth i waith Tony, sy’n ymwneud â’r broses o theori neu ddamcaniaeth, gan edrych yn benodol ar werthoedd gweithredol y pwnc. Mae’n archwilio bydoedd a ffenomenau eraill o’r micro i’r macro sy’n dangos y canlyniadau mewn arddull fformwläig agored. Fel y duw rhadlon, mae Hall yn llywyddu dros fydoedd miniatur yn dadorchuddio canlyniadau ei ymchwiliadau i ni’r gwyliwr.
Ar y llaw arall mae Jillian yn cyflwyno’r broses o wneud yn y gwaith a arddangosir – mae’n dechrau fel un peth ac yn newid i rywbeth arall yn ystod y sioe. Mae hi’n cychwyn proses o newid cyson yn ystod yr arddangosfa, un y gallwn ni dystio iddi ac na ellir ei hatal. Caiff y gwaith ei adeiladu a’i arddangos, nid fel arbrawf ond fel trosiad o bryderon mwy personol. Mae’r datganiadau sy’n cyd﷓fynd â hwy yn ychwanegu at ddwyster a grym y gwaith: “cael fy nal gan y dorf neu fy ynysu yw fy nilema.”

Programme