
CONTEMPORARY TEMPORARY ARTSPACE
taflen g39 Lôn y Felin Caerdydd CF10 1FH
CYFAMSEROL
Gorffennaf 4ydd – 28ain
David Cushway Mark Jackson Yoko Kobayashi
Gorwel dinodwedd y cefnfor, toddiant araf arteffactau a llif rheoledig dwr, Mae Cyfamserol yn arddangosfa sy’n cysylltu symudiad dwr a thrydan â ‘nawr’ amser.
Mae gwaith David Cushway yn ecsbloetio ein syniadau am amser er mwyn awgrymu profiad o’r aruchel. Mae’n gosod gwrthrych adnabyddedig clai heb ei danio i mewn i ddwr ac yn gadael iddo dorri i lawr i mewn i ffurf ddirlawn amorffaidd. Mae’r clai toddedig canlynol yn cynnig y potensial i wrthrych replica gael ei ailwneud a’r broses i gael ei ailadrodd. Mae Cushway yn weithgar yng nghylched creu, distrywio ac ailgreu gan ddefnyddio clai fel cyfrwng mynegiant. Trwy ei ymarfer, mae wedi archwilio pryderon yn amrywio o’r personol i’r cyffredinol: o olion o bresenoldeb ac absenoldeb yr unigolyn i’n defnydd o archeoleg i ddiffinio gorffennol a phresennol, breuder bodolaeth ddynol oddi mewn i hanes daearegol anferthol fwy.
Ar y llawr cyntaf, mae tafluniad fideo graddfa fawr yn cyflwyno’r olwg i gefn ac i flaen llong sy’n symud, gan greu ymdeimlad o symudiad diddiwedd ac amhenderfynadwy. Mae gwaith Mark Jackson yn disgrifio’r daith hon dros y cefnfor i ystyried treigl amser. Mae’r ffilm yn atseinio’r strwythur yr ydym yn ei osod ar amser: gorffennol, sy’n bodoli yn ein hatgofion, presennol sy’n anfesuradwy a dyfodol yn llawn gobeithion a disgwyliadau. Mae Marc yn gweld y ddealltwriaeth hwn o amser yn rhy simplistig gan ei fod yn gwadu pwysigrwydd newid a pharhad. Yn hytrach, dylem gydnabod nad oes dim oddi mewn i’n canfyddiad yn barhaol, ac yn lle, mae popeth yn bodoli oddi mewn i’r cyflwr newid neu esblygiad hwn.
Mae Yoko Kobayashi yn tynnu ar foddion naturiol ac ymwybyddiaeth ddwyreiniol i adlewyrchu cyffelybiaethau rhwng llif dwr a llif egni oddi mewn i’r corff dynol. Gan ddefnyddio pibau a thiwbiau gwydr, mae ei gwaith yn croestorri gwagle yn llorweddol ac yn fertigol gan greu llif, cyflymder a disgyrchiant gyda dwr. Mae hi’n creu cydbwysedd cemegol sy’n atgoffaol o’r prosesau niwtraleiddio yn y corff trwy gydbwyso’r pH oddi mewn i’r gyfundrefn gymhleth a chain hon. Mae holl ddibenion y corff yn rhyng-gysylltu; mae un symudiad yn ysgogi un arall, mynegir curiad calon ac anadlu mewn amser a symudiad.
Mae Cyfamserol yn mynd i’r afael â materion dichonol trwm amser, gofod a newid trwy ganfyddiad gonest, personol yr artistiaid. Mae’r gwylydd yn dod ar draws y gwaith gydag ymwybyddiaeth o berthynas corfforol eu hunain i’r gwaith a chyd-destun ehangach natur caotig a di-reolaeth yr hyn sy’n digwydd allan o’n gafael. Mae’r arddangosfa o ganlyniad yn agor platfform i fyny ar gyfer trafodaeth, gan osod y gwylydd mewn lle i archwilio ei b/pherthynas â natur bythbarhaol newid.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants