...but still

16 Ionawr - 9 Chwefror 2002

Dogfen, arteffact, crair, gwrthrych esthetig, cofnod personal a phendant o gyfnod sydd wedi diflannu - cymerir y delwedd ffotograffig amryw rôl mewn gymdeithas sy’n dibynnu ar recordio, dogfennu ac atgynhyrchu gwybodaeth. Mae …dal yn stond yn siwrnai o ddarganfyddiad neu ailedrych, yn ystyried y ffordd yr ydym yn cyfeirio i’r “llun llonydd”, ac hefyd iaith a disgwyliad y delwedd symudol. Gan glirio i ffwrdd gofod ar gyfer llonyddwch, mae …dal yn stond yn caniatáu’r cyfle i ni ailystyried ein perthynas i drafodaethau ffotograffiaeth.

Sialensir tirweddion ac olygfeydd tacsidermig Richard Page y gwrthddywediad o fywyd estynedig yr anifail wedi’i stwffio, gan gyfosod eu symudiadau ffug mewn marwolaeth gyda symudiad y ddinas. Mae llygaid ddi-gwsg yr anifeiliaid yn archwilio’n parhaol ymylau ein bywyd trefol. Mae ffotograffiaeth yn anwybyddus am ei gallu i rewi symudiad mewn fflach, yn ei dal ar wyneb y ffotograff. Gweithir tacsidermi mewn ffordd debyg, yn gosod y goddrych mewn cyflwr o ymsymudiad tragwyddol. Mae Richard yn defnyddio y dyfais hwn yn ei ddiptychau ffotograffig er mwyn greu sylwebaeth ar ymsymudiad trwy’r ‘llall’.

Defnyddir Ben Stammers ffotograffau o’i deulu a’i ffrindiau fel math o anthropoleg personol. Mae e wedi cymryd y syniad o’r delwedd hepgorol ac wedi ei droi yn gofadail i’r diflanedig. Fe ddaw’r ciplun sy’n recordio moment dinod yn arwydd llonydd i’r dyfodol. Wrth symud y cyfrwng o ffotograffiaeth i baent, mae e’n annog ni i ddadadeiladu y giplun. Mae e’n galluogi ni i gymryd golwg arall ar ddelwedd y bydden ni, fel arfer, yn gweld ar raddfa llawer llai. Rhoir y lluniau personol yma caniatâd i ni deimlo’r dieithrwch o weld teulu rhywun arall, yn tynnu’r gwyliwr i mewn i edrych yn agosach. Daethpwyd moment o orffennol Ben yn elastig, wedi ei ymestyn, gwneuthuriad ddifesur a wadir y delwedd hepgorol.

Mae ffotograffiau golosgedig Helen Clifford yn delio â choll, dychweliad a chof. Chwe mlynedd ar ol y cawson nhw eu carboneiddio mewn odyn, mae’r delweddau yn ailymddangos yn hudol ar ffotograffiau Helen, yn codi’n llythrennol allan o’r lludw. Trwy’r proses o losgi, mae natur y delwedd wedi ei drawsffurfio o ddogfen personol i fod yn grair, yn dystiolaeth i’r ennyd hepgorol.

Ceir y cysyniadau yma ei le yn waith Philip Babot hefyd. Yn ‘gaze’, defnyddir Philip syniadau o adlewyrchiad a myfyrdod; wrth fod yn hollol lonydd, mae Philip yn ein gwahodd ni i ail-edrych ar fyd o ymsymudiad cyson. Yn eistedd heb symud, creuir ei berfformiadau cydweddiadau rhwng sain tawelwch ynghanol byd swnllyd, ysgafnder pwysau; bod yn hollol lonydd a thawel ymhlith symudiadau parhaol: “Fe allwn naillai syllu ar rywbeth neu drwyddi. Fe ddaw Rhywbeth yn Ddim.”

Caniateir …dal yn stond y gwyliwr i oedi ac ystyried natur delweddau, i ailystyried yr hwn sydd wedi dod yn ddiffiniad o’n hanesion personol ac hefyd y tanwydd am fyd o atgynhyrchu.
Dewch i mewn, safwch yn stond, ac edrychwch.

Programme