The Starry Messenger

11 Ebrill - 13 Mehefin 2015

Yn The Starry Messenger mae Bedwyr Williams yn edrych drwy delesgop o’r pen arall i ganolbwyntio ar y seryddwr amatur. Mae wedi’i swyno gan ddiniweidrwydd a diddordeb angerddol yr hobïwr mewn byd proffesiynol, sydd wedi rhoi cit telesgop at ei gilydd yn gelfydd er mwyn syllu ar y cosmos.


Aiff yr arddangosfa â ni ar siwrnai drwy sawl cam, pob un mor ddryslyd â’i gilydd. Mae Bedwyr yn defnyddio pytiau o seiniau cudd - dwndwr, diferu, cân yr aderyn, plonc, nadu a seiniau storfa - i’n harwain trwy’i ddrysni. Awn drwy glogfeini mawr (Obelix), heibio i byllau tywyll (The Depth), a waliau ffug terazzo, gan symud drwy ofod microsgopig ac aruthrol (The Starfield Corridor). Mae effeithiau’r newidiadau eithriadol o ran maint yn ddigon i ddrysu unrhyw un. Gall fod yn tynnu blewyn o drwyn rhyw argyfwng dirfodol, argyfwng a bersonoleiddir yng nghanolbwynt yr arddangosfa. Arsyllfa fach yw Wylo lle cawn gip ar fyd y seryddwr amatur, wedi’i gryfhau gan gri bruddglwyfus dyn canol oed.
Mae Bedwyr wedi ailadrodd y motiff terazzo yn yr arddangosfa hon drwyddi draw, sef agreg carreg wedi’i orffennu trwy lifanu a chaboli, ac a ddefnyddir yn aml ar gyfer lloriau a waliau. Mae’n ein gwahodd i ddychmygu ni’n hunain fel un o’r gronynnau carreg bach o fewn terazzo, yn cynrychioli “microcosm o’r rhai a ddiystyriwyd” a’n bydysawd darniog ni.
Yn y ffilm The Starry Messenger mae Bedwyr yn cyflwyno taith seicedelig anghydlynol am ddeintydd mosaig sydd wedi colli’i ddannedd teils, yn arsylwi ar y bydysawd siang-di-fang fel y gronyn lleiaf mewn arwyneb carreg wedi’i chwalu’n chwilfriw. Drwy’r thema derazzo gyson hon a’r newidiadau sydyn o ran persbectif, mae ymdeimlad o barchedig ofn yn dychwelyd. Mae’r ymateb dynol hwn yn gyfuniad o ofn a rhyfeddod llwyr, wrth syllu i’r noson serog. Gall ein harwain at nihiliaeth lwm, oni bai am hiwmor a chyffyrddiadau ysgafn Bedwyr sy’n ein troi’n gyfranogwyr parod ar y daith ryfedd hon.
Fel Galileo a’i arsylwadau wybrennol a gyhoeddwyd yn Sidereus Nuncius (Starry Messenger), cyflwynodd Bedwyr y gosodiad mawr hwn am y tro cyntaf yn Fenis, wrth gynrychioli Cymru yn Biennale 2013. Cafodd The Starry Messenger ei guradu ar y cyd gan Oriel Davies a MOSTYN a’i gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r arddangosfa deithiol hon wedi’i noddi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Chyngor Celfyddydau Cymru.

    Programme