Gweni Llwyd - Wendy Short - Gwenda Evans - Beau Beakhouse & Sadia Pineda Hameed - Yewande YoYo Odunubi
Artist Cymreig wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yw Gweni Llwyd. Mae ei hymarferiad yn adlewyrchu sut mae’r cyflwr dynol yn gorwedd rhwng corfforolrwydd cyffyrddol a bydoedd digidol ansylweddol. Gan ddefnyddio ffilmiau hapgael o lygad y ffynnon, peiriannau gemau a deunydd corfforol, mae ei gwaith yn pylu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd yma’n nawr a’r hyn sy’n bodoli rhywle arall mewn amser.
Artist amlddisgyblaethol cyfryngau newydd sydd bellach wedi ei lleoli yn Ne Cymru yw GWENBA. Mae ei gwaith yn archwilio’r berthynas rhwng gofodau organig a rithiol drwy berfformiadau, sain, fideo ac arbrofion testun. Mae’n aml yn cymryd y ffurf o dyfiannau digidol neu arbrofion gyda sylwedd craidd y ddaear.
Artist wedi ei lleoli rhwng Llundain a Swydd Aeron yw Wendy Short. Mae’n cael ei hysgogi gan sut rydym yn gwneud synnwyr o’r gorffennol, y presennol a’n cysylltiadau gyda’n gilydd. Mae Wendy yn archwilio treigl amser, defnydd hanesyddol o safleoedd ac ystyr sy’n gysylltiedig â safle drwy recordiadau maes a delwedd symudol.
Mae Sadia Pineda Hameed & Beau Beakhouse wedi bod yn gweithio fel deuawd cydweithredol dros gyfnod o bedair blynedd. Mae eu gwaith yn ymwneud â chyd-greu a ffyrdd o weithio gyda'i gilydd. Mae eu dull o weithio yn cynnwys cyfnodau hir o ymchwil, yn aml yn tynnu ar ddeunydd ymylol, archifol neu hanesyddol sy’n cysylltu â diddordebau cyfredol, gan greu gwaith blaengar newydd.
Curadur, cynhyrchydd diwylliannol a dawnswraig wedi ei lleoli yn Llundain yw Yewande YoYo Odunubi. Mae hi’n ymroddi i adeiladu amgylchedd ar draws cyfryngau sy’n meithrin ac sy’n galluogi gofod ar gyfer cyfnewidiau llawn dychymyg ac ystyr. Treuliodd y pum mlynedd diwethaf yn cefnogi rhaglenni sy’n cynnig cyfleoedd a gweithrediadau i artistiaid a phobl greadigol i annog eu cyfranogiad diwylliannol ac addysg greadigol eu hunain.
Daeth UNITe i fodolaeth yn 2014. Mae’n ein galluogi i gwrdd ag artistiaid newydd ac i ddysgu am eu hymarferiadau stiwdio yn uniongyrchol. Gan gymryd ysbrydoliaeth gan ysgolion celf annibynnol, grwpiau stiwdio a sut mae artistiaid yn darganfod modd i gefnogi ei gilydd, mae tymor UNITe g29 yn trawsnewid y lleoliad arddangosfa i fod yn ofod stiwdio gyfrannol a chanolbwynt cymunedol.
Beth bynnag y cyd-destun a ble bynnag y safle – y stiwdio, y gweithdy, y llyfrgell, y gliniadur, y cysylltiadau rhithiol, trefol neu wledig – mae lleoliadau cynhyrchu fel arfer yn cael eu cadw ar wahân i amgylchedd y galeri. Mae tymor UNITe g39 yn anelu i ailsefydlu'r cysylltiad hwn rhwng y cynhyrchu a’r arddangos.
Yn ystod UNITe 2021 rydym wedi ailfeddwl y rhaglen. Cafodd ei siapio gan y gofod corfforol a’r ymadweithiau cymdeithasol rhwng artistiaid sy’n ystlysu ymarferiad stiwdio – prydiau bwyd, cerddoriaeth a rennir, darllen ac yfed. Eleni gallwn ychwanegu'r gofod rhithiol i’r rhestr hon – y cysylltiadau a wneir rhwng pobl pan ar wahân.
Bydd y rhaglen yn dechrau yn rhithiol, ac wrth iddi symud yn ei blaen bydd mwy o gyfleoedd i uno. Fe anogir yr artistiaid i gyfrannu i’r rhaglen a chefnogi ei gilydd fel grŵp cymar.
Yn ystod y rhaglen bydd cyfres o sgyrsiau cyhoeddus a digwyddiadau am ddim gan gynnwys sgyrsiau gan Tai Shani, Katrina Palmer a Libita Clayton.