Cekca Het:
Trans Panic:
Rhiannon Lowe:
Burn It Down

10 Rhagfyr 2021

18.30 - 20.00 drop in.

Bydd Rhiannon yn cynnal noswaith o sŵn ac elfennau gweledol, mymryn o ddiod, tân a hwyl, draw yn g39, gan ddefnyddio ei gwaith sy’n rhan o'r arddangosfa bresennol ‘No Time To Plan An Ending’ fel tanwydd.

Yn seiliedig ar ei phrosiect Cekca Het: Trans Panic, a ddaeth i fodolaeth ychydig flynyddoedd yn ôl yn llyfrgell g39, datblygodd Rhiannon ei syniadau yn sioe unigol yn Oriel Mission yn Abertawe, gyda chefnogaeth grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru wrth dderbyn cymrodoriaeth Freelands.

Mae gwaith Rhiannon yn archwilio ei hunaniaeth draws a’i chymuned, ynghyd â materion ehangach o waharddiad, sylw'r cyfryngau wrth greu cyffrogarwch, ac anghydraddoldeb. Gan ddefnyddio sain, gosodiad amlgyfrwng, testun, tecstilau, lluniadu, print ac effemera, mae hi'n olrhain ei gorffennol i ddod o hyd i gliwiau ynghylch ble mae hi bellach yn ei chanfod ei hun. Mae prosiect diweddar Rhiannon, Cekca Het: Trans Panic yn cyfuno ei hawydd diddiwedd i fod mewn band pop/sŵn gyda’r frwydr a’r hyfrydwch o drafod ei rhywedd.

Bydd y digwyddiad gyda'r nos yn g39 yn un anffurfiol, lle bydd modd galw heibio fel y mynnwch. Byddwn yn cadw llygad ar y niferoedd, felly cofiwch fasg a byddwch synhwyrol a saff; efallai y bydd yna ddawnsio hefyd, ond pwy a ŵyr?

Bydd y digwyddiad gyda'r nos yn g39 yn un anffurfiol, lle bydd modd galw heibio fel y mynnwch. Byddwn yn cadw llygad ar y niferoedd, felly cofiwch fasg a byddwch synhwyrol a saff; efallai y bydd yna ddawnsio hefyd, ond pwy a ŵyr?

Lluniau gan Liam O'Connor
Gwisgoedd gan Abi Hubbard
Ffotograff portread hysbysfwrdd cefndir gan Megan Winstone
Delwedd Symudol: Rhiannon Lowe, gwaith ar y gweill ar gyfer Careful Networks, Canolfan Gelfyddydau Phoenix, Caerlŷr.
Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, g39, Mission, Freelands

Programme