A screening and Q&A with //
Sgriniad a sesiwn holi ac ateb gyda:
Dolly Sen & Caroline Cardus
Mae Broken Hearts for the DWP yn rhaglen ddogfen fer gan Dolly Sen am farwolaethau pobl anabl yn ymwneud â diwygio nawdd cymdeithasol a sut mae pobl anabl yn ymladd yn ôl gan ddefnyddio celf, cariad a chynddaredd.
“Ffilm Dolly yw un o’r ffilmiau pwysicaf i mi ei gweld ers amser maith. Taer, pwerus, dinistriol. Mae angen i ni i gyd weithredu.” Maxine Peake, Actores
Book Here // Archebu Yma
Mae gan Dolly Sen ymennydd tywyll. Oherwydd hyn mae hi'n awdur, artist, perfformiwr a gwneuthurwr ffilmiau. Ers 2004, mae hi wedi arddangos a pherfformio ei gwaith yn rhyngwladol. Mae ei ffilmiau hefyd wedi cael eu dangos ledled y byd. Mae ei thaith fel artist wedi mynd â hi i fyny coeden yn Regents Park, i res yr angau California, i’r Barbican, Tower Bridge a’r Academi Frenhinol, Sgwâr Trafalgar, ac i fyny ysgol i sgriwio bwlb golau i’r awyr. Nod creadigrwydd Dolly yw rhoi normalrwydd dros ei glin a rhoi chwip din iddo. Yn fwy diweddar, mae hi wedi rhannu’r Adran Gwaith a Phensiynau ac wedi arddangos celf yn Arddangosfa ‘Being Human’ Wellcome Collection.
Mae hi'n unigolyn dosbarth gweithiol, cwiar, sydd â diddordeb mewn anabledd a'r gwallgofrwydd a roddir i ni gan y byd. Hi/Nhw. Ar hyn o bryd mae hi'n byw yn Norwich yn Norfolk. Mae Caroline Cardus, a aned yn y gogledd, yn artist gweithgar yn y mudiad celfyddydau anabledd. Mae Cardus yn aml yn cydweithio i adrodd straeon am brofiadau byw o safbwyntiau anabledd a ffeministaidd.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants