Soft split the Stone

8 Ebrill - 20 Mai 2023

Philippa Brown, Aled Simons, Tom Cardew, Alice Briggs, Rebecca Jagoe

Tom Cardew, Machynys Forgets Itself, 2023
Tom Cardew, Machynys Forgets Itself, 2023

Mae trydydd grŵp rhaglen Cymrodoriaeth g39 - Philippa Brown, Aled Simons,
Tom Cardew, Alice Briggs, Rebecca Jagoe – yn cyflwyno casgliad o brosiectau newydd, syniadau a chynigiadau ar gyfer gwaith.

Mae Soft split the Stone yn arddangosfa a gynhelir yn g39 sy’n uno eu gwaith am y tro cyntaf. Mae’r teitl cynganeddol yn eu huno mewn rhyw ffordd – o byrth rhwng bydoedd Philippa Brown i gerrig gleision hollt Legend Extension II gan Aled Simons; gwaith ffilm ynysoedd coll a thwneli ysbryd Tom Cardew, yn llithro yn ôl ac ymlaen o wahanol linellau amser; ymchwiliad archaeoleg teulu a lleoliad Alice Briggs sef Each of These Things Is True a Rebecca Jagoe, sy’n edrych ar iaith y cerrig i drafod salwch ac amserlen ddaearegol.

Mae Soft split the Stone yn saib, fel dylai unrhyw arddangosfa gwerth ei halen fod. Nid yw’r gwaith yn statig, ond yn amrywio ac yn newid mewn ystyr a chyd-destun. Islaw ac uwchlaw cramen y ddaear – rhwng gronynnau o waddod a llif lafa, nid yw carreg wedi ei gosod.

Mae Philippa Brown yn creu gwaith chwareus, weithiau doniol, ac yn aml yn amwys; dyw tensiwn byth yn bell, yn gorwedd yn agos i’r wyneb. Yn tyfu o ddull greddfol ymarfer-stiwdio-fel-defod-dyddiol, mae ei gwaith cerfluniol weithiau yn fregus, yn aml yn ansefydlog a’n aflonydd. Mae hi’n darganfod cydgysylltiad rhwng hanesion, deunydd, coelion a chyrff o bob math.

Y pyrth iddi ymchwilio ystyron newydd mewn gwrthrychau yw hiraeth, isddiwylliannau a’r ocwlt. Mae hi’n crefftio naratif hybrid am gydymffurfiad a thactegau gwahanol ar gyfer byw. Mae’n gydweithrediad dynol a materol – proses o arbrofion alcemegol sy’n ymchwilio i ddewiniaeth, yr annaearol, alegori, symbolaeth a mytholeg – hynafol a phersonol.


Mae Legend Extension II gan Aled Simons yn gwahodd y gwyliwr i ail-ddychmygu bwa Stonehenge fel ei fod wedi ei wneud o offer campfa aerobig plastig – totem i arweinwyr cwlt cadw’n heini a’u chwantau i’n cadw ni’n fyw am byth, efallai. Beth os yw ein hatgofion a’n gwybyddiaeth gyfunol yn cael eu recordio, eu hail weindio, a’u hail recordio ar dapiau VHS wedi llwydo? Cafodd Stonehenge ei adeiladu yn wreiddiol yng Nghymru; mae nawr yn sefyll fel cofeb ail-law wedi ei wneud o gerrig gleision Cymreig.

Mae’r cerflun parod hwn yn cyd-fynd â fideo dolennog wyth munud yn cynnwys animeiddiad bras 3D, ffilm archifol a gifs wedi animeiddio gyda throsleisio mewn rhannau, wedi ei ysgrifennu a’i adrodd gan yr artist: yn pendroni dynwarededd anymwybodol heintus ac yn cloddio ffeithiau storïol dadleuol – wedi gogwyddo wrth iddynt gael eu hailadrodd tro ar ôl tro. Mewn mannau rydyn yn gweld ein hunain yng ngheseiliau tywyll casét tap fideo, fel petai’n archwilio corneli amgylchedd gem gyfrifiadurol 64-bit.

Bwriad Legend Extension II yw caniatáu lle i ystyried hanesion personol ar ogwydd a hiraeth cymylog. Camddealltwriaeth undonog, cyfieithiadau anghywir, pwls a gofod mewnol, dosbarth, gwacterau micro a macro, stumog. Anadlu; ailadrodd defodol a chyfriniaeth ffug.


Yn Each of these things is true fe dreuliodd Alice Briggs amser yng Nghwm Elan yn archwilio’r safle gyda’i rhieni a’i phlant, ond yn arbennig ei thad, yn trafod yr hanes/archeoleg/diwylliant y tir ac atgofion teulu.

Mae hi’n edrych ar sut gellir cofio un ennyd yn annherfynol oddrychol; sut mae’r oedolyn (rhiant) yn wahanol i’r plentyn, sut mae bywydau a phrofir gyda’i gilydd yn ôl pob golwg yn gallu arwain at ddealltwriaeth, ond hefyd camddealltwriaeth. Yn gweithio gyda’i thad, mae piano yng ngofod g39 yn gwneud cysylltiad â’r ystafelloedd lle magwyd hi, â theulu a’r cyfarwydd.

Mae’r piano nawr yn flinedig ac wedi torri, ond mae ei berfformiad olaf, trac byrfyfyr gan ei thad yn cyd-fynd â’r ffilm. Mae dirgryniadau tanau’r piano yn trylifo drwy fwsogl a gwair mynyddoedd Cambria, safle a disgrifiwyd unwaith fel ‘anialwch gwyn’, amddifad o harddwch, natur a bywyd – ond nid iddi hi. Mae’r graig fawr yn wyllt ac yn ddof, yn anialwch ac yn noddfa, yn bwynt o echdyniad yn ogystal â throchiad.


Mae Machynys Forgets Itself yn ffilm, yn osodiad ac yn brosiect ymchwil delwedd AI gan Tom Cardew. Mae’n archwilio atgof cyfunol, dynameg dosbarthau cymdeithasol a’r dymchwel anarferedig o hanes llinellol drwy greu chwedlau cyfunol a’r digidol. Roedd Machynys unwaith yn ynys, ond nid yw bellach yn uwch na lefel y môr. Roedd yn le o dwneli tanddaearol ac yn hwyrach, o ffatrïoedd diwydiannol, ffwrnesi tanboeth a rhesi teras. Nawr, mae hen safle’r gymuned hunanwasanaethol yn gwrs golff moethus, gyda’r unig olion o’r gorffennol dan y ddaear, a welir drwy dyllau’r cwrs.

Yn g39, mae’r gwaith ffilm yn elfen ganolog, sy’n ganlyniad o ymchwil eang i hanes Machynys. Bu Tom yn gweithio fel awdur/cyfarwyddwr gyda grŵp o actorion Cymreig a chriw ffilm mewn ymgais i ail-ddychmygu momentau hanesyddol arwyddocaol: o fynachdy o’r 10fed ganrif ac o bosib rhwydwaith o dwneli cyfrinachol, i’w uchafbwynt o fywyd dosbarth gweithiol cymdeithasol a diwydiannol y 19eg a’r 20fed ganrif gynnar, i’w ffurf adeiledig, ar fin ei ddinistrio y 1970au, ac yn olaf ei bresennol anadnabyddadwy. Mae’r ffilm yn cyfuno ffilmio byw, ffilm archifol, delweddau a gynhyrchir gan AI ac interliwd lip sync. Mae’n byw mewn stordy o din: porth anacronistig i hanes diwydiannol Machynys. Yn olaf, mae cyfres o ddelweddau a gynhyrchir gan AI yn archwilio hanesion cymylog Machynys a chofnodion storïol gan un o’i drigolion blaenorol.


Yn gweithio drwy gydol g39 yn profi gwaith newydd, mae Rebecca Jagoe yn gweithio gyda thestun, perfformiad a cherflunwaith. Mae eu gwaith yn hunangofiant materol o sut mae eu profiad o salwch, gwallgofrwydd a rhyw yn cael ei gyfathrebu gan naratif gorllewinol, Cristnogol penodol o amgylch y ’dynol’ a’r dominiwn dynol dros y ddaear. Yn erbyn hyn maent yn defnyddio ffigwr yr anghenfil, yr anifail, neu unrhyw beth heblaw y dynol i ystyried ffurfiau eraill o oddrychedd a chyfrwng.

Yma maent yn uno dwy elfen o brosiect yn ymchwilio’r animistiaeth o gerrig hynafol Ewropeaidd. Mae The Stone of Folly yn brosiect ar gyfer perfformiad wedi ei seilio ar y paentiad Bosch eponymaidd. Yn arbrofi a deunydd ar gyfer gwisg, cerflunwaith, sgript a sain, mae’r gwaith yn archwilio gwallgofrwydd fel gwrthodiad o drefn, y gymynrodd dreisgar o ‘iachâd’, lleisiau afluniaidd y cyndadau gwallgof, a meddylogi queerness. Trwy gydol, mae gwallgofrwydd yn cael ei ddehongli fel perthynas agos gyda dernyn o fflint.

Mae’r gwaith yn cael ei ddangos ochr yn ochr â’r ffilm A Sicknesse, A Ston (CORAL) a fydd yn chwarae yn ystod yr arddangosfa. Wedi ei gomisiynu gan Site Gallery fel rhan o Fresh Takes, mae hygyrchedd wedi ei adeiladu yn ei strwythur. Mae wedi ei seilio ar The Peterborough Lapidary, testun hynafol o wahanol gerrig a’u hiachâd. Yn y bennod gyntaf, mae dogfen ffug-wyddonol yn adrodd y bwriad i ddarganfod a yw cerrig yn fyw, os ystyried dros amserlenni estynedig, a thu hwnt i dermau anthroposentrig am oes.


Mae g39 wedi bod yn gartref i artistiaid y rhaglen Cymrodoriaeth g39, sy’n rhan o raglen ‘Freelnads Artists Programme’ ers dwy flynedd,. Mae Soft split the Stone yn gymysgedd o waith newydd, gwaith o’r ddwy flynedd diwethaf ac o brosiectau sydd wedi tyfu ochr yn ochr â’r arddangosfa baralel In the Same Breath yn Freelands Foundation, Chalk Hill 23ain o Fawrth – 29ain o Fai 2023.

Yn cynnwys: Aled Simons, Alice Briggs, Anisa Nuh-Ali, Emmie McLuskey, Helouise O’Reilly, Jan Hopkins, Jonathan HS Ross, Lea Torp Nielsen, Matt Zurowski, Myrid Carten, Philippa Brown, Phillip McCrilly, Rachael Colley, Rebecca Jagoe, Renèe Helèna Browne, Robin Price, Ross Fleming, Seiko Kinoshita, Sekai Machache, Tom Cardew.

Mae In the Same Breath yn cynnwys gwaith gan bob un o’r 20 artist ar draws y DU sy’n rhan o raglen ‘Freelands Artist Programme’. I gyd-fynd â’r arddangosfa mae cyhoeddiad o’r enw Unchorus.

  • Aled Simons, Legend Extension II, research image, 2022
  • Rebecca Jagoe, A Sicknesse, A Ston [Coral]. [Still], Single channel video, 2023
  • Philippa Brown, 2022
  • Alice Briggs, Each of these things is true,2023
  • Tom Cardew, Machynys Forgets Itself, 2023

Programme