Gweithgor: Llyfrgell

5 Chwefror - 7 Mawrth 2025

Roedd y cyfle hwn yn gyntaf i'r felin, ac mae bellach yn llawn felly peidiwch ag ymgeisio

Mae Gweithgor yn rhaglen wirfoddoli newydd yn g39. Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio gyda ni, nid i ni, i ennill sgiliau ac i archwilio a datblygu gwahanol rannau o’r sefydliad. Mae hefyd yn ymwneud â dod at ein gilydd yn gymdeithasol.
Mae'r peilot hwn yn Weithgor y Llyfrgell.

Arweinir Gweithgor y Llyfrgell gan ein hintern presennol Morgan Dowdall. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am ddeg gwirfoddolwr i weithio gyda ni dros bum wythnos, gan ddechrau ym mis Chwefror 2025. 

Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio cyfres o gasgliadau o fewn ein hadnoddau llyfrgell ar bwnc o'ch dewis. Byddwch yn gweithio gyda ni i ddatblygu a chryfhau ein harchif.

Mae'r rhaglen yn bum wythnos o hyd.
Bob wythnos bydd dwy sesiwn, un sesiwn yn ystod yr wythnos ac un ar y penwythnos.
Rydym yn deall bod ymrwymiadau eraill yn gallu mynd yn y ffordd, felly nid oes angen i chi fynychu pob un o'r rhain, ond bydd angen i chi gytuno i fynychu o leiaf pum o'r deg sesiwn. 
Mae'r sesiwn gyntaf ar 05/02/25 - Bydd angen i chi ymrwymo i fynychu'r sesiwn sefydlu gyntaf hon i ddod i wybod sut mae'r llyfrgell yn gweithio ac i gwrdd â'r tîm.


Mae'r rhaglen hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n ceisio dod o hyd i ffyrdd i mewn I sîn celf weledol Cymru, neu am gysylltu ag eraill neu ennill mwy o brofiad. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch i ymuno, dim ond brwdfrydedd ac angerdd
am y celfyddydau gweledol.

Darganfyddwch fwy YMA neu anfonwch neges e-bost at Morgan – intern@g39.org – gydag unrhyw ymholiadau.

Neu, os ydych yn gwybod eich bod am gymryd rhan, defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais cyn 29/01/25 am 11.59pm.

    Programme