10:00-16:00, Artist & Radical Book Fair // Fair Artistiaid a Llyfrau Radical

Llyfrau, Celf, Pamffledi, Zines, Posteri, Dosbarthiad, Cenadaethau, Sticeri, Nwyddau.
Diwrnod lawn stondinau, gweithdai, sgyrsiau a thrafodaethau, yn cynnwys cyhoeddwyr radical, gwerthwyr llyfrau, artistiaid, grwpiau cenhadaeth ac ymgyrchwyr.
Yn gwbl hygyrch. Lluniaeth fforddiadwy. Mynediad am ddim - dewch i ailwefru’ch batris radical.
Yn cael ei gynnal gan G39 mewn cydweithrediad â Yellow Back Books a Red Shoes Poster Archive ! Archif Bosteri'r Esgidiau Cochion
Digwyddiadau
Am ddim ond mae archebu lle yn hanfodol
Climate Cooks: Tea Making
10:00-14:00
Mae Climate Cooks yn grŵp o ferched sy'n dod at ei gilydd i goginio, lletya a bwyta. Mae'r merched wedi cael profiad byw o'r system loches, a thrwy'r prosiect maen nhw’n rhannu eu treftadaeth a'u traddodiad coginio. Fe ddechreuon nhw drwy gynnal gweithdai coginio creadigol i rannu sgiliau gyda'i gilydd. A bellach gyda chymorth cyllid y Gronfa Ffyniant Bro, maen nhw’n ymddangos ledled y ddinas gyda'u cegin symudol ar gefn beic.
Dragged to the Revolution gyda Heather Savage
10:30-12:00
This workshop aims to amplifiy voices of the queer community, through fostering empowerment and creative self-expression. Participants will create mask designs and maquettes, to embody personal and collective queer resilience. Drawing inspiration from the rich history of drag culture as a site of defiance, transformation and joy. Through humour and wit as powerful design tools, this workshop cultivates solidarity and strength within the queer community, encouraging participants to reclaim space, embrace play, and express themselves theatrically in the face of adversity. Materials will be supplied.
Archebwch Yma
Yellow Back Books: Art Vs Content with Onismo
12:30-14:00
Mae’r prosiect “Art vs Content” yn weithdy archwiliadol a gynlluniwyd i ymchwilio i’r groesffordd rhwng creu celf a chynnwys, gan archwilio sut gall y ddwy deyrnas hon gydfodoli ac ategu ei gilydd. Prif nod y gweithdy yw creu amgylchedd cydweithredol lle gall artistiaid a chrewyr cynnwys gymryd rhan mewn disgwrs ystyrlon, datblygu sgiliau newydd, a herio’r ffiniau traddodiadol rhwng celf a chynnwys. Nod y gweithdy yw tynnu sylw at arwyddocâd y bwriad y tu ôl i greu cynnwys, gan roi'r offer i artistiaid greu cynnwys pwrpasol heb gyfaddawdu ar eu cywirdeb artistig.
Archebwch Yma
Left Cultures Creative Writing Workshop
14:30-16:00
O fewn y gweithdy, byddwn yn trafod y gwahanol fathau o adrodd straeon, a defnydd awduron wrth greu eu naratifau ar gyfer rhifynnau Left Cultures. Amrywiaeth y diwylliant sydd wedi cael ei drafod drwy gydol y prosiect hyd yma. Gan ddefnyddio briff y prosiect ac ymatebion awduron, gofynnir i chi gwestiynu ac archwilio eich taith wleidyddol eich hun a’r addysg rydych chi wedi’i chael trwy ddiwylliant ac, yn y pen draw, rhannu eich stori Left Cultures bosibl gyda’r grŵp.
Archebwch Yma
Left Cultures and Welsh Stories
17:30-19:00
Trwy’r tri rhifyn o Left Cultures hyd yma, bu amrywiaeth o straeon rhyfeddol yn canolbwyntio ar ddiwylliannau Cymreig ar yr asgell chwith, o lenyddiaeth i weithredwyr, a cherddoriaeth i bampas a phensaernïaeth. Yn ystod y digwyddiad, bydd Phil a Colum, y cyd-gyhoeddwyr a golygyddion, yn trafod pwysigrwydd Diwylliant yr Asgell Chwith yng Nghymru ac yn cael cyfres o ddarlleniadau o straeon a gyhoeddwyd yn holl tri rhifau y Left Cultures. Ac efallai, efallai, y byddan nhw’n rhannu stori fydd yn ymddangos yn y pedwerydd rhifyn (sydd eto i’w gyhoeddi). Darlleniadau gan rai gwesteion arbennig iawn.
Archebwch Yma
Stondinau
YBB Yellow Back Books
Red Shoes Poster Archive
Community Table
g39
Left Cultures
Fernanda Fedrizzi
Gutter Gear Press
ACORN (Housing Union)
AWCHU
Printed Matter(s) - CSAD: Fine Art
Daughter of Carmilla
Resistance books
Rubicand Space
Shelf Life
Dinah Vagina
Dyddiau Du
Joshua Jones
C.W.O The Internationalists
Cwilt
Francesca Sobande
mur.mur.sca - Swansea College of Art:Photography
Letters to political prisoners
UWE MA Print
Stop the War Cardiff
Yellow Back Books
Mae Yellow Back Books yn brosiect cydweithredol sy’n ymwneud â llyfrau artistiaid. Cafodd y prosiect ei ffurfio yn 2015.
Cafodd ei enwi ar ôl y llyfrau melyn fforddiadwy oedd ar gael i'r farchnad dorfol mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae Yellow Back Books wedi ymrwymo i gynnig lle i bobl gael mynediad at lyfrau fforddiadwy gan artistiaid a llyfrau lluosog .
Ar ôl bod yn siop ar gyfer llyfrau artistiaid dros dro mewn unedau siopa, ffeiriau celf ac arddangosfeydd, gan gynnwys cyfnod preswyl gydag ArcadeCampfa yn 2018, bydd Yellow Back Books yn sefydlu ei hun yn g39 am y dyfodol rhagweladwy.
RED SHOES Poster Archive ! Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION
Archif Bosteri’r RHED SHOES ! Mae Archif Bosteri’r RED SHOES yn adnodd dysgu cyhoeddus hygyrch a sefydlwyd gan yr artist Shaun Featherstone. Ei nod yw cadw a dathlu diwylliant y posteri radical a grëwyd gan bobl, cymunedau a mudiadau cymdeithasol y dosbarth gweithiol. Sefydlwyd yr archif yn 2020 ac mae wedi’i threfnu gan ddilyn egwyddorion dielw ar lawr gwlad. Mae gan yr archif dros 1700 o bosteri, llyfrau ac effemera ffisegol yn ogystal ag archif ddigidol. Mae RED SHOES yn cyfeirio at y lliw a gysylltir fwyaf â mudiadau torfol dan arweiniad gweithwyr, a’r syniad ein bod yn cerdded yn ôl troed y rhai aeth o’n blaenau, gan barhau â’r frwydr i ennill byd mwy teg, cyfiawn a chynaliadwy.